Symud at y prif gynnwys

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron

Bob mis Hydref, down at ein gilydd i gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron - gan godi ymwybyddiaeth, cefnogi’r sawl yr effeithir arnynt gan ganser y fron, ac ariannu ymchwil hanfodol i ganser yng Nghymru.

Trwy gydol y mis, byddwn yn annog cefnogwyr, ysgolion, gweithleoedd a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, a heriau personol. P’un a ydych chi’n trefnu rhywbeth mawr neu fach, mae pob ymdrech yn helpu i wneud gwahaniaeth.

Cymerwch ran y mis Hydref hwn

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gefnogi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, gan gynnwys:

  • Cynnal bore coffi neu werthu cacennau
  • Cynnal digwyddiad codi arian â thema binc
  • Ymgymryd â her bersonol
  • Trefnu diwrnod codi arian yn y gweithle neu’r ysgol
  • Gwisgo pinc er mwyn codi ymwybyddiaeth
  • Gwneud rhodd i gefnogi ymchwil canser

Sut bynnag y byddwch chi’n dewis cymryd rhan, bydd eich cefnogaeth yn helpu i ariannu ymchwil sy’n newid bywydau ac yn codi ymwybyddiaeth ledled Cymru.

Ein bathodyn pin pinc newydd

Eleni, byddwn hefyd yn lansio bathodyn pin pinc disglair newydd sbon i helpu cefnogwyr i ddangos eu cefnogaeth trwy gydol mis Hydref.

Mae’r bathodyn yn berffaith i’w wisgo mewn digwyddiadau codi arian, yn y gweithle neu o ddydd i ddydd, ac yn ffordd syml o helpu i godi ymwybyddiaeth a dechrau sgyrsiau wrth gefnogi Ymchwil Canser Cymru.

Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, syniadau codi arian ac adnoddau ymgyrchu ar gael cyn hir.

Cefnogi ymchwil canser yng Nghymru

Wrth gymryd rhan ym Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, byddwch chi’n helpu i gefnogi ymchwil hanfodol, yn gwella canlyniadau i gleifion, a dod â gobaith i deuluoedd ledled Cymru yr effeithir arnynt gan ganser.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth y mis Hydref hwn.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd