Symud at y prif gynnwys

Trosglwyddo’r arian godoch chi

Gallwch dalu’r arian a godoch i mewn yn gyflym ac yn hawdd! Dyma ambell ffordd o wneud.

Y ffordd hawsaf o drosglwyddo’r arian a godoch chi yw gwneud hynny ar-lein drwy ein gwefan. Gallwch chi wneud rhodd ddiogel gan ddefnyddio ein ffurflen dalu ar-lein, sy’n sicrhau bod eich rhodd yn cael ei throsglwyddo i ni’n gyflym ac yn cael ei dyrannu’n gywir i’ch ymdrechion codi arian.

Byddwch chi’n derbyn cadarnhad awtomatig drwy e-bost o’ch rhodd, a gallwn hefyd anfon llythyr neu dystysgrif os hoffech dderbyn un.

Rhoi ar-lein

Yn ogystal, rydym yn annog cefnogwyr i ddefnyddio tudalen codi arian ar-lein fel Enthuse. Mae hyn yn eich galluogi i gasglu rhoddion mewn un man, a rhannu’ch stori yn hawdd, a rhoi diweddariadau am eich gweithgarwch codi arian. Mae’n ffordd syml i ffrindiau, teulu a chydweithwyr eich cefnogi lle bynnag y bônt.

Creu tudalen Enthuse

Ffyrdd eraill o drosglwyddo arian

Os nad ydych chi’n gallu talu ar-lein, gallwn dderbyn rhoddion drwy drosglwyddiad banc, drwy siec a thros y ffôn. Os byddwch chi’n anfon siec at ein swyddfa yng Nghaerdydd, cofiwch gynnwys eich manylion, fel y gallwn sicrhau bod yr arian a godoch yn cael ei ddyrannu’n gywir i’ch digwyddiad neu ymgyrch.

Angen help?

Os ydych chi’n ansicr ynghylch sut i drosglwyddo eich arian neu os oes angen cymorth arnoch gyda’ch rhodd ar-lein, mae ein tîm yma i helpu. Cysylltwch â ni a byddwn yn sicrhau bod popeth mor syml â phosibl.

E-bostiwch Contact-us@cancerresearchwales.org.uk neu ffoniwch y swyddfa.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd