Codi Arian er Cof am Rywun
Trowch eich angerdd yn deyrnged
Mae codi arian er cof am anwylyd yn ffordd bwerus o ddathlu ei fywyd a chreu effaith barhaus. P’un a ddewiswch chi redeg marathon, cynnal bore coffi, neu drefnu rhywbeth unigryw, byddwn ni yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Dyma sut i ddechrau arni:
1. Cofrestrwch eich syniad codi arian gyda ni
Po fwyaf gwybodaeth sydd gennym am eich cynlluniau, gorau oll y gallwn eich cefnogi ar hyd y ffordd. Mae cofrestru’n sicrhau bod cyngor, adnoddau, ac anogaeth ar gael i chi pryd bynnag y byddwch eu hangen.
2. Gofynnwch am eich canllaw codi arian
Mae ein canllaw codi arian yn llawn awgrymiadau a deunyddiau i helpu i hyrwyddo’ch gweithgarwch. P’un a oes arnoch angen potiau casglu, sticeri, neu faneri, mae gennym ddigon o adnoddau i wneud eich digwyddiad yn llwyddiannus.
3. Sefydlwch eich tudalen Enthuse ar-lein
Dyma’r ffordd hawsaf o rannu eich gweithgarwch codi arian a chasglu rhoddion yn ddiogel. Mae Ymchwil Canser Cymru yn derbyn yr arian yn syth, felly gallwch ganolbwyntio ar eich cynlluniau heb boeni am gasglu arian parod. Gallwch wneud eich tudalen yn bersonol gyda llun, eich stori, a tharged codi arian. Mae’r manylion hyn yn ysbrydoli pobl i gyfrannu rhodd ac fe allent hyd yn oed annog pobl eraill i ddechrau codi arian hefyd.
4. Rhowch y si ar led!
Pan fyddwch wedi cofrestru, lawrlwytho’ch canllaw, a sefydlu’ch tudalen Enthuse, mae’n bryd rhannu eich stori. Dechreuwch drwy anfon y ddolen i’ch tudalen at deulu a ffrindiau. Nhw yw’r rhai cyntaf i gyfrannu yn aml a byddant yn helpu i roi hwb i’ch cyfanswm codi arian. Yna rhannwch y ddolen ar gyfryngau cymdeithasol, tagiwch ni a gwyliwch eich cyfanswm yn cynyddu!
Angen cymorth?
Mae ein tîm yma i helpu gyda syniadau, adnoddau, a chyngor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen arweiniad, cysylltwch â ni, byddem yn falch iawn o glywed am eich cynlluniau a helpu i’w gwireddu.