Symud at y prif gynnwys

Casgliadau Angladd

Anrhydeddwch eich anwylyd trwy gasgliad yn ei wasanaeth

Mae llawer o bobl yn dewis casglu rhoddion er cof am anwylyd yn ei angladd neu wasanaeth coffa. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n cofio rhywun arbennig gyda rhodd i Ymchwil Canser Cymru yn y modd yma. Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd, ac yn gwerthfawrogi’r ffaith eich bod yn meddwl amdanom yn fawr.

Sut mae’n gweithio

Gall trefnwyr angladdau drefnu casgliadau ar eich rhan ac anfon eich rhoddion caredig yn syth atom. Os byddai’n well gennych drefnu’r casgliad eich hun, gallwn ddarparu blychau casglu ac amlenni rhodd i hwyluso pethau. Gallwch hefyd sefydlu tudalen codi arian ddigidol Enthuse ar gyfer rhoddion ar-lein neu anfon siec pan fydd yr holl gyfraniadau wedi’u casglu.

I ofyn am amlenni a/ neu flychau casglu, anfonwch neges e-bost at inmemory@cancerresearchwales.org.uk

I greu tudalen codi arian ar-lein, cliciwch ar y ddolen i’r dudalen hon, dewiswch ‘Creu Tuadlen Codi Arian er Cof am Rywun’ a dilynwch y camau i’w sefydlu.

Angen cymorth?

Mae ein tîm Er Cof yma i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau neu drefniadau. P’un a oes arnoch angen deunyddiau, arweiniad ar sefydlu tudalen ar-lein, neu dawelwch meddwl yn ystod y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd