Gadael Rhodd yn eich Ewyllys
Crëwch gymynrodd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn ffordd ystyrlon o anrhydeddu cof rhywun a sicrhau bod ei effaith yn parhau am flynyddoedd i ddod. Ewyllys yw’r unig ffordd o sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu gwireddu, a bydd nid yn unig yn rhoi tawelwch meddwl i chi, ond yn gwneud pethau’n haws i’ch anwyliaid, hefyd.
Sut i Adael Rhodd
Mae creu Ewyllys yn broses syml ac nid oes angen iddi fod yn ddrud. Rydym bob amser yn argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol, fel y gallwch sicrhau bod eich Ewyllys wedi’i hysgrifennu’n iawn ac yn bodloni eich gofynion.
Efallai bydd gennych gyfreithiwr yn barod, ond os na, fe allech ofyn i rywun rydych yn ei adnabod argymell un, neu ddod o hyd i un yn eich ardal leol ar wefan Cymdeithas y Gyfraith. Fel arall, fe allwch greu eich Ewyllys trwy un o’n gwasanaethau ysgrifennu Ewyllys am ddim.
I gynnwys Ymchwil Canser Cymru yn eich Ewyllys, bydd arnoch angen ein henw llawn, ein cyfeiriad a’n rhif elusen gofrestredig:
Ymchwil Canser Cymru
22 Llys Neifion
Ffordd Vanguard
Caerdydd
CF24 5PJ
Rhif Elusen Gofrestredig: 1167290
Os penderfynwch chi adael rhodd yn eich Ewyllys i Ymchwil Canser Cymru, ystyriwch roi gwybod i ni oherwydd byddem yn hoffi diolch i chi. Fodd bynnag, rydym yn parchu eich preifatrwydd ac yn deall pe byddai’n well gennych beidio â dweud. Darllenwch fwy am ein haddewid i chi pan fyddwch yn gadael cymynrodd i Ymchwil Canser Cymru.
Angen ychydig o gymorth?
Gallwch ddarllen mwy am ein cwestiynau cyffredin yma.
Os hoffech gael cymorth ychwanegol, gall ein tîm cymynrodd ateb eich cwestiynau. Ffoniwch ni ar 029 2185 5050 neu anfonwch neges e-bost at contact-us@cancerresearchwales.org.uk