Symud at y prif gynnwys

Sefydlu Tudalen Deyrnged

Crëwch le ar-lein parhaus i rannu atgofion a chodi arian

Mae tudalen deyrnged yn lle arbennig i deulu a ffrindiau ddod at ei gilydd i ddathlu bywyd rhywun, gan rannu straeon, lluniau, a negeseuon ar yr un pryd â chodi arian er cof amdano. Mae’n ffordd hyfryd o gadw’r cof amdano’n fyw a gwneud gwahaniaeth i bobl eraill yng Nghymru.

Sut i greu eich Tudalen Deyrnged

Mae’n rhwydd i sefydlu’ch tudalen deyrnged. Cliciwch ar y ddolen isod i ymweld â’n platfform Enthuse a dewiswch ‘Creu Tudalen Codi Arian er Cof am Rywun’. Gofynnir i chi gofrestru neu fewngofnodi, ac yna ychwanegu enw eich anwylyd. Gallwch sefydlu targed codi arian os hoffech chi, lanlwytho llun, ac esbonio pam rydych chi’n codi arian er cof amdano (dewisol). Yn olaf, dewiswch a ydych eisiau i ni gysylltu â chi, ac yna cyhoeddwch eich tudalen a’i rhannu gyda ffrindiau a theulu. Ar eich tudalen, gallwch ychwanegu delweddau, rhannu straeon, a dechrau codi arian er cof am eich anwylyd.

Angen ychydig o gymorth? 

Mae ein tîm Er Cof yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen arweiniad ar sefydlu eich tudalen, mae croeso i chi gysylltu â ni. Gallwn gynnig awgrymiadau, ateb ymholiadau, a sicrhau bod eich tudalen deyrnged yn gweddu’n berffaith i chi a’ch anwylyd.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd