Symud at y prif gynnwys

4 March, 6:30 - 8:30pm

Wythnos Cymru Llundain 2026: Gyrru Arloesedd yng Nghymru

Sign up for this event

Mynediad am ddim

Mawrth 4 2026

Cadwch eich lle

Dyddiad

Mawrth 4 2026

Lleoliad

MG Head Office, Marylebone

Ymunwch ag Ymchwil Canser Cymru, Nathaniel Cars a MG ar gyfer digwyddiad arbennig yn ystod Wythnos Cymru Llundain 2026. Bydd y noson unigryw hon yn dathlu arloesedd Cymru, gan ddod ag arweinwyr o feysydd busnes a gwyddoniaeth at ei gilydd i drafod arloeson a chynnydd yn y sectorau hyn yn y dyfodol.

  • Lleoliad - Pencadlys MG yng nghalon Marylebone, sydd yn lleoliad steilus a modern ar gyfer noson o rwydweithio a thrafodaeth.
  • Rhwydweithio - Bydd gwesteion yn mwynhau awyrgylch ymlaciol gyda diodydd a chanapés, gan gynnig y cyfle perffaith i gymdeithasu a chysylltu â chyfranogwyr eraill.
  • Profiad yr Ystafell Arddangos Ceir - Cymerwch daith wedi ei thywys o ystafell arddangos ceir anhygoel MG a archwiliwch yr arloesi diweddaraf mewn technoleg EV a dylunio modurol.

Panel Arbenigwyr a Holi ac Ateb

Un o uchafbwyntiau’r noson fydd sgwrs ddiddorol a sesiwn holi ac ateb ar ddyfodol arloesedd Cymreig. 

Clywch gan siaradwyr nodedig, gan gynnwys:

Nathan Griffiths o Nathaniel Cars: Yn cynnig mewnwelediad i fyd busnes ac arloesedd modurol esblygol Cymru.

Peter Dunstan, Cyd-sylfaenydd CanSense: Yn rhannu ymchwil arloesol a rôl arloesedd yn y frwydr yn erbyn canser.

Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: Yn rhannu ei syniadau am rôl y trydydd sector wrth ddatblygu arloesedd i ddiwallu anghenion heriau’r dyfodol.

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i ymgysylltu â phobl allweddol o fyd diwydiant ac ymchwil yng Nghymru ac i godi ymwybyddiaeth am waith Ymchwil Canser Cymru, yr elusen ymchwil canser annibynnol Cymreig.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi