Symud at y prif gynnwys
  • Ras

19 May

10K Bae Caerdydd

Sign up for this event

Ymunwch â TîmYCC

£10 + £120 o nawdd

Lle elusennol TîmYCC

Math o ddigwyddiad

Ras

Dyddiad y Digwyddiad

19 Mai

Isafswm Ffi

£10 + £120 o nawdd

MAE COFRESTRI I'R DIGWYDDIAD HWN WEDI CAU NAWR

Rydym ni yn Ymchwil Canser Cymru wrth ein bodd mai ni yw prif bartner elusennol Ras 10K Bae Caerdydd Brecon Carreg. Fel unig elusen ymchwil canser annibynnol Cymru, mae ein holl wariant ar ymchwil canser yn cael ei wario yma i ariannu ymchwil hanfodol yng Nghymru.

Trwy fod yn bartneriaid â Run4Wales a Brecon Carreg yn y digwyddiad difyr hwn i’r teulu cyfan, byddwn yn cysylltu â phobl o bob cefndir – rydym ni’n edrych ymlaen at gwrdd â nhw, rhedeg gyda nhw a’u cefnogi dros y tair blynedd nesaf ac ymhell i’r dyfodol. Ymunwch â #TîmYCC heddiw a helpu i newid y dyfodol i gleifion canser yng Nghymru. Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd. 

Bydd angen i bawb sy’n cymryd rhan ymrwymo i godi o leiaf £120 o nawdd ar gyfer y digwyddiad hwn. Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol yma yn Ymchwil Canser Cymru i’ch cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon.

Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
  • Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, clwb Rhedeg #TîmYCC
  • Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
  • Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd 50% o’ch targed codi arian)

By registering for this event with Cancer Research Wales, you agree to the Participant Terms and Conditions, and agree to share your data with the event organisers and partners.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi