Symud at y prif gynnwys
  • Marathon

4 October 2026

Hanner Marathon Caerdydd 2026

Sign up for this event

I have my own place

Free

Ymuno

Math o ddigwyddiad

Marathon

Dyddiad y Digwyddiad

4 Hydref 2026

Cofrestru am le elusennol

£10 + £300 o nawdd

Sicrhewch eich lle ar gyfer Hanner Caerdydd 2026 Ymchwil Canser Cymru heddiw - llenwch y ffurflen isod!

Bydd y cwrs gwastad, cyflym, yn dychwelyd ar 4 Hydref 2026, gan fynd heibio holl olygfeydd trawiadol a thirnodau eiconig y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Principality, ac ysblander Bae Caerdydd. 

Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen ar gyfer pob canser, ac rydym yn ymrwymo i newid ystyr diagnosis canser, fel ei bod yn haws gwneud diagnosis o ganser, ei drin a’i iachau.

Bydd eich cymorth yn helpu i ddwyn triniaethau gwell yn nes i gartref cleifion ledled Cymru. Ymunwch â #TîmYCC heddiw a helpu newid y dyfodol i gleifion canser Cymru yfory. Byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.

Bydd angen i bawb sy’n cymryd rhan ymrwymo i godi o leiaf £300 o nawdd ar gyfer y digwyddiad hwn. Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol yma yn Ymchwil Canser Cymru i’ch cefnogi bob cam o’r daith gyffrous hon.

Bydd mynediad i’r ras hefyd yn cynnwys:

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rheolaidd am y digwyddiad
  • Cefnogaeth gan ein Grŵp Facebook, Clwb Rhedeg #TîmYCC
  • Gwybodaeth am Ymchwil Canser Cymru a’n prosiectau ymchwil diweddaraf
  • Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd £50 o’ch targed codi arian)
  • Cyfleu i greu dyfodol mwy disglair i gleifion canser yng Nghymru, a’u teuluoedd

Trwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych yn cytuno i Delerau ac Amodau Cyfranogwyr, ac yn cytuno i rannu eich data gyda threfnwyr y digwyddiad a’u partneriaid.

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi