Symud at y prif gynnwys
  • Cyfleoedd codi arian
  • Awareness

24 September

Dangosa Dy Streips!

Math o ddigwyddiad

Cyfleoedd codi arian

Dyddiad

24 Medi 2026

Y mis Medi hwn, Dangosa Dy Streips i gefnogi ymchwil canser sy'n achub bywydau, sy'n digwydd yma yng Nghymru!

Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen annibynnol sydd wedi ariannu gwaith ymchwil gwerth dros £41 miliwn, sy'n helpu teuluoedd yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gan ganser. Ond ni allwn wneud hynny heb gefnogaeth gan ein cymunedau lleol.

Rydym yn galw ar eich ysgol i gofrestru ar gyfer Dangosa Dy Streips ym mis Medi! Mae'n ffordd syml, hwyliog ac ystyrlon o gefnogi'r elusen.

Cadarnhewch eich ysgol gyda ni ac mae'n bosibl y cewch ymweliad arbennig, hyd yn oed, gan ein masgot mawr, coch, blewog, Stripe y Ddraig! Bydd e'n hedfan ledled Cymru yn ystod y mis ac efallai y daw i weld eich disgyblion chi!

Sut gallwch chi gefnogi?

Gofynnwch i ddisgyblion a staff wisgo streips a rhoi arian! Mae'n Ddiwrnod Ymchwil Canser y Byd ar 24 Medi, ond gallwch Ddangos Eich Streips pryd bynnag y mae'n gyfleus i chi yn ystod y mis.

Lawrlwythwch ein poster, dewiswch eich dyddiad, gofynnwch i ddisgyblion wisgo streips, rhoi arian parod, neu gallwch sefydlu tudalen codi arian Enthuse.

Pam streips?

Mae ein logo streipiog lliwgar yn cynrychioli'r dilyniannu DNA a welir gan wyddonwyr mewn labordai fel rhan o'n hymchwil canser, yn ogystal â'r mathau gwahanol o ganser y gall pobl gael diagnosis ohonynt.

Mae Diwrnod Dangosa Dy Streips yn gyfle gwych i:

  • Annog creadigrwydd a gwaith tîm
  • Codi ymwybyddiaeth am ymchwil canser
  • Dod â chymuned eich ysgol ynghyd
  • Cefnogi ymchwil sy'n newid bywydau yng Nghymru

Adnoddau codi arian

Byddwn ni'n darparu adnoddau defnyddiol i gefnogi eich digwyddiad codi arian, gan gynnwys:

  • Posteri a deunyddiau hyrwyddo
  • Graffeg cyfryngau cymdeithasol
  • Awgrymiadau a syniadau codi arian
  • Logos ac asedau ymgyrch y gellir eu lawrlwytho

Ymunwch â Dangosa Dy Streips y mis Medi hwn

P'un a ydych chi'n codi arian yn yr ystafell ddosbarth neu fel rhan o weithgarwch cymunedol ehangach, mae pob gwisg streipiog a phob rhodd yn helpu i gefnogi dyfodol ymchwil canser yng Nghymru. Diolch i chi!

Dangoswch eich streips. Codwch ymwybyddiaeth. Helpwch i ariannu ymchwil.

Cysylltwch â ni i roi gwybod y bydd eich ysgol yn cymryd rhan yn Dangosa Dy Streips!

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd