Symud at y prif gynnwys
  • Marathon
  • Ras

Rhedeg Coed Y Brenin

Sign up for this event

Cymerwch Her Llwybr

Cysylltwch

Cysylltu â ni

Math o ddigwyddiad

Marathon

PRIF DDIGWYDDIADAU RHEDEG LLWYBRAU COEDWIG CYMRU

Rydym wrth ein bodd yn cael bod yn bartner RUN.CYB, ac ychwanegu rhedeg llwybrau at ein portffolio o rasys codi arian.

Coed y Brenin oedd canolfan feicio mynydd cyntaf Prydain a adeiladwyd yn bwrpasol ac mae’n un o brif gyrchfannau’r gamp o hyd.

Mae gan RUN.CYB ddewis o wahanol rasys trwy gydol y flwyddyn ac maent hyd yn oed yn cynnwys ras ‘canicross’ i chi sydd â chyfeillion rhedeg 4 coes.

Mae Trail5k, Hanner Marathon a Marathon Llwybr Cymru, wedi’u cefnogi gan Salomon, yn rhai yn unig o’r rasys sydd ar gael i redwyr TîmYCC.

Ymunwch â #TîmYCC a chefnogi Ymchwil Canser Cymru

Ni yw’r unig elusen sy’n ymroi’n gyfan gwbl i ariannu ymchwil canser yng Nghymru, i Gymru.

Mae mynediad i’r rasys am ddim a bydd angen i bob un sy’n cymryd rhan ymrwymo i godi o leiaf £150 o nawdd. Yn fuan ar ôl cofrestru, cewch gyswllt pwrpasol a fydd yn eich cynorthwyo bob cam o’r daith gyffrous hon.

Bydd eich lle yn y ras hefyd yn cynnwys:

  • Pecyn codi arian pwrpasol
  • Diweddariadau rhedeg rheolaidd
  • Cefnogaeth gan ein grŵp rhedeg #TîmYCC ar Facebook
  • Gwybodaeth am brosiectau ymchwil diweddaraf Ymchwil Canser Cymru
  • Crys T rhedeg Ymchwil Canser Cymru (pan fyddwch wedi cyrraedd 50% o’ch targed codi arian)

Digwyddiadau eraill yr hoffech chi