8 o bob 10 o Gymry yn cefnogi treialon clinigol ar gyfer canser, ond Ymchwil Canser Cymru yn rhybuddio am gyfle coll i wella ymchwil i ganser
Mae Ymchwil Canser Cymru yn rhyddhau y ffigyrau heddiw i godi ymwybyddiaeth am dreialon clinigol sydd â'r potensial i achub bywydau ac ymestyn oes

Mae bron i 8 o bob 10 o Gymry (78%) yn meddwl bod treialon clinigol ar gyfer canser yn beth da i gymryd rhan ynddynt, yn ôl arolwg newydd a ryddhawyd heddiw gan Ymchwil Canser Cymru.
Cynhaliwyd yr arolwg – ‘Agweddau tuag at dreialon clinigol yng Nghymru’ gan Beaufort Research, ac mae hefyd yn datgelu:
- Mae dros 9 o bob 10 o bobl (94%) yn dweud y byddai helpu cleifion yn y dyfodol yn rheswm pwysig iddynt gymryd rhan mewn treial clinigol canser
- Mae dros 9 o bob 10 o bobl (92%) yn dweud y byddai cyfrannu at wybodaeth wyddonol yn rheswm pwysig iddynt gymryd rhan mewn treial clinigol canser
- Mae bron i 9 o bob 10 person (88%) yn dweud y byddai cael budd o'u gofal eu hunain yn rheswm pwysig iddynt gymryd rhan mewn treial clinigol canser
Dywed Dr Lee Campbell – Pennaeth Ymchwil elusen Ymchwil Canser Cymru:
“Fel yr elusen ymchwil canser Cymreig ac un o brif arianwyr treialon clinigol ar ganser yng Nghymru, rydym yn gwybod bod treialon clinigol yn hanfodol wrth ddatblygu triniaethau arloesol newydd ar gyfer canser a diagnosis cynnar o ganser.
“Mae treialon clinigol hefyd yn rhoi cyfle i gleifion fod ymysg y cyntaf i fanteisio ar driniaethau newydd ac felly mae'n hynod o bositif i wybod fod pobl Cymru mor gefnogol o'r angen am yr ymchwil hon sy'n gallu achub bywydau ac ymestyn oes.”
Ond mae Ymchwil Canser Cymru yn rhybuddio, er gwaethaf cefnogaeth gref y cyhoedd ar gyfer treialon clinigol ar gyfer canser, mai dim ond nifer gymharol isel o gleifion sy'n cael cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil feddygol ar gyfer canser.
Meddai Dr Lee Campbell:
"Mae cyn lleied â 1 mewn 5 (20%) o bobl sydd â chanser yn cael cynnig y cyfle i gymryd rhan mewn treialon clinigol a mathau eraill o ymchwil feddygol ar gyfer y clefyd yma yng Nghymru - yn amlwg, mae hon yn gyfle coll i ddatblygu ymchwil ar ganser yng Nghymru, datblygu triniaethau newydd a rhoi mwy o bobl gyfle i gael mynediad i’r triniaethau yma yn gynt.
"Dyma pam y byddem yn hoffi gweld defnydd ehangach o dreialon clinigol a chynlluniau ymchwil meddygol eraill yng Nghymru ar gyfer trin a diagnosis gwell o ganser gan fod yn amlwg y byddai buddion gwneud hyn yn sylweddol i bobl Cymru, eu ffrindiau a'u hanwyliaid yn ogystal â'n system iechyd."
Mae Ymchwil Canser Cymru ar hyn o bryd yn ariannu pedwar o dreialon clinigol yn Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd.
Nod un o'r treialon hyn yw ceisio gwella canfod canser y coluddyn, tra bod un arall yn ymwneud ac atal ailgychwyn canser y coluddyn. Bwriad y trydydd treial clinigol a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru ydi gwella triniaethau ar gyfer canser y ben a’r gwddf. Mae'r pedwerydd prawf yn gweithio gyda meddygon teuluol i helpu i wella canfod canser.Mae treialon clinigol hefyd yn bwysig wrth helpu i ddatblygu triniaethau canser arloesol newydd.