Symud at y prif gynnwys

Gwaith codi arian gan deulu o Sir Fynwy yn talu am ymchwil newydd i driniaeth canser

Y Teulu Walker o’r Ddyfawden yn codi £266,000 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru

Cefnogwch y teulu Walker

Gallwch chi gefnogi'r teulu Walker trwy gyfrannu at eu hymgyrch codi arian diweddaraf:

Mae teulu o Sir Fynwy wedi cyrraedd carreg filltir arall wrth godi arian elusennol i dalu am ymchwil i wella triniaethau canser yng Nghymru.

Yn drist iawn, collodd y teulu Walker – Debbie, Tim a'u merched Holly ac Emily o’r Ddyfawden, eu mab a'u brawd – Tom, i lewcemia myeloid acíwt pan oedd yn 13 oed ym mis Mehefin 2018.

Fe wnaethant sefydlu Cronfa Tom Walker Ymchwil Canser Cymru er cof am Tom ac maent wedi bod yn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru – sef elusen ymchwil canser Cymru.

Nofioathonau a chardiau wedi'u gwneud â llaw

Gyda chefnogaeth pobl a ffrindiau lleol, mae'r teulu wedi codi £266,000 trwy weithgareddau gan gynnwys nofioathonau, teithiau cerdded, digwyddiadau cerddorol a gwneud a gwerthu cardiau cyfarch wedi'u gwneud â llaw.

Hyd yn hyn, mae ymdrechion codi arian y teulu Walker eisoes wedi talu am brosiect PhD gwerth £100,000 drwy Ysgoloriaeth Ymchwil PhD Tom Walker Ymchwil Canser Cymru, i ymchwilio i lewcemia myeloid acíwt a gwella dealltwriaeth o'r clefyd.

Gwnaethant hefyd gyfrannu £92,000 arall at Fenter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru yn 2023.

Cyflawniad diweddaraf y teulu yw ariannu prosiect newydd gwerth £40,000 a fydd yn ymchwilio i sut y gall probiotig ddylanwadu ar gelloedd imiwnedd sy'n ymladd canser.

Dywedodd Debbie Walker: "Rydym yn falch iawn ac yn gyffrous i fod yn ariannu'r ymchwil ddiweddaraf hwn gydag arian a godwyd gan deulu a ffrindiau, gan gynnwys ffrindiau Tom. Mae ein diolch, fel bob amser, yn mynd iddynt am eu cefnogaeth

barhaus ac yn y pen draw, am gofio Tom. Ein digwyddiad codi arian nesaf yw 'Trek for Tom' ddydd Gwener 3 Ebrill. Mae chwech o ffrindiau Tom yn ymgymryd â Tri Chopa Cymru. Byddant yn dringo'r Wyddfa a Chadair Idris cyn teithio i'r de i ymuno â 25 arall o ffrindiau a theulu i ddringo Pen y Fan.”

A allai diet ddylanwadu ar ymateb y corff i ganser?

Bydd y prosiect ymchwil diweddaraf – 'Datrys sut mae probiotegau yn ysgogi celloedd imiwnedd lladd canser hynod effeithiol mewn cleifion canser', yn cael ei gyflwyno gan yr Athro Andrew Sewell o Brifysgol Caerdydd.

Wrth sôn am ei ddyfarniad, dywedodd yr Athro Andrew Sewell:“Rwy'n ddiolchgar iawn am y dyfarniad hwn gan Gronfa Tom yn Ymchwil Canser Cymru gan y bydd yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu'r gwaith a wnaed gan gydweithwyr i mi ym Mhrifysgol Kumamoto yn Japan, a brofodd probiotig penodol ochr yn ochr ag imiwnotherapi mewn cleifion canser yr ysgyfaint.

“Roedd cleifion a dderbyniodd y probiotig yn ychwanegol at driniaeth safonol yn aml yn ymddangos petaent yn gwneud yn well na'r disgwyl, gyda chyfran yn byw am flynyddoedd lawer ar ôl diagnosis. Cododd yr arsylwadau hyn ddiddordeb mewn deall sut y gallai rhywbeth mor syml â diet ddylanwadu ar ymateb imiwnedd y corff i ganser.”

Yr her wyddonol allweddol

“Canfu ein tîm ym Mhrifysgol Caerdydd y gall y probiotig hwn actifadu math penodol o gell imiwnedd sy'n gallu adnabod a lladd celloedd canser. Yn bwysig, nid yw pob un o'r celloedd imiwnedd hyn yn ymddwyn yn yr un modd, dim ond lleiafrif sy'n ymddangos yn arbennig o effeithiol wrth ladd canser. Deall beth sy'n gwneud y celloedd hyn yn wahanol yw'r her wyddonol allweddol erbyn hyn", ychwanegodd yr Athro Sewell.

“Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddeall beth sy'n gwneud y celloedd imiwnedd hynod effeithiol hyn yn wahanol, a sut y gallai diet a microbau’r perfedd ddylanwadu ar eu hymddygiad. Gallai ein hymchwil helpu i esbonio pam mae rhai cleifion yn elwa mwy nag eraill a llywio datblygiad dulliau syml, cost isel i wella triniaethau canser presennol.”

Ymchwil canser arloesol yng Nghymru

Ymchwil Canser Cymru yw'r elusen ymchwil canser annibynnol yng Nghymru, ac ers 1966 mae wedi buddsoddi dros £39 miliwn mewn prosiectau ymchwil canser arloesol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae gan yr elusen dros £7,600,000 wedi'i fuddsoddi mewn 37 o brosiectau byw sy'n ymchwilio i ddiagnosis cyflymach a thriniaethau gwell a mwy caredig ar gyfer canser.

Mae'n dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i ariannu ei waith arloesol.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: "Mae'r teulu Walker yn bobl ysbrydoledig ac mae'r gefnogaeth a'r caredigrwydd parhaus a dderbyniwn gan Debbie, Tim, Holly ac Emily yn ein helpu i fwrw ymlaen â'n cenhadaeth o uno Cymru yn erbyn canser drwy ymchwil canser o'r radd flaenaf fel y prosiect newydd cyffrous hwn wedi’i arwain gan yr Athro Sewell.”

Parch ac edmygedd

“Mae eu gallu i ysgogi eu cymuned i godi'r symiau hyn o arian ar gyfer gwaith Ymchwil Canser Cymru drwy Gronfa Tom yn anhygoel ac yn arwydd o'r parch a'r edmygedd y maent yn eu derbyn gan bobl Sir Fynwy.

"Ar ran minnau, y staff a'r ymddiriedolwyr yma yn Ymchwil Canser Cymru, hoffwn ddweud 'Diolch' mawr iawn i'r teulu Walker ac am y gwaith maen nhw'n ei wneud er cof am Tom - rydym yn falch iawn i'ch galw'n ffrindiau ac yn falch iawn o'ch cael chi fel cefnogwyr.”