Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron: Addasu bacteria i ymladd canser y fron
Y Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron hon, rydym yn tynnu sylw at rai o'r prosiectau ymchwil arloesol i ganser y fron sy'n cael ei hariannu gan Ymchwil Canser Cymru
Mae bron i 3,000 o ferched yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn yng Nghymru. Er bod y cyfraddau goroesi yn parhau i wella diolch i gynnydd mewn diagnosis a thriniaeth, mae canser y fron yn dal i fod yn un o brif achosion marwolaeth sy'n gysylltiedig â chanser, gan ladd tua 600 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn.
I helpu newid y sefyllfa hon, mae Ymchwil Canser Cymru yn ariannu ymchwil arloesol ym Mhrifysgol Caerdydd dan arweiniad Dr Lee Parry, mewn cydweithrediad â'r Athro Paul Dyson ym Mhrifysgol Abertawe, i archwilio ffordd gyffrous newydd o dargedu canser y fron gan ddefnyddio bacteria wedi ei addasu.
Mae'r tîm yn adeiladu ar eu hymchwil labordy blaenorol sydd wedi dangos sut y gellir defnyddio bacteria wedi'u haddasu yn arbennig yn ddiogel i ddanfon triniaethau'n uniongyrchol i gelloedd canser y fron, yn union yng nghanol y tiwmor. Trwy dargedu celloedd canser yn benodol ac achub meinwe iach, gellir lleihau sgîl-effeithiau'r driniaeth. Mae eu hymchwil yn canolbwyntio ar S. typhimurium, rhywogaeth ficrob sy'n gallu mynd i mewn i gelloedd tiwmor, gan eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer darparu therapïau wedi eu targedu.
Triniaethau wedi'u targedu
Mae'r dull hwn yn cynnig dwy fantais bwerus: gall y bacteria gyflwyno triniaethau targedol tra hefyd yn sbarduno'r system imiwnedd i adnabod ac ymosod ar y tiwmor. Yn bwysig, gellir rheoli'r bacteria'n ddiogel gan ddefnyddio gwrthfiotigau.
Mae ymchwil blaenorol o'r labordy wedi defnyddio'r llwyfan hwn yn llwyddiannus i dargedu c-MYC, genyn sy'n gyrru twf canser, gyda chanlyniadau addawol. Mae'r tîm nawr yn edrych i dargedu PD-L1, moleciwl sy'n helpu celloedd canser i osgoi'r system imiwnedd. Ar hyn o bryd, defnyddir y feddyginiaeth Atezolizumab i dargedu PD-L1, sy'n ymestyn goroesiad cleifion canser y fron, ond mae ganddi sgîl-effeithiau negyddol. Trwy rwystro PD-L1 dim ond yn y tiwmor gan ddefnyddio bacteria, mae'r ymchwilwyr yn gobeithio gwneud i gelloedd tiwmor fod yn fwy gweledol i amddiffynfeydd naturiol y corff heb yr effeithiau negyddol.
Yn y pen draw, mae'r tîm yn anelu at gyfuno therapïau sy'n targedu c-MYC a PD-L1, gan greu triniaeth fwy pwerus ac effeithiol ar gyfer canser y fron, gyda'r potensial i dargedu celloedd sydd wedi lledaenu o gwmpas y corff ar yr un pryd.
Math newydd o therapi genynnol
Yn dilyn astudiaethau cyn-glinigol llwyddiannus, bydd y camau nesaf yn cynnwys profion diogelwch ychwanegol a chael cymeradwyaethau rheoleiddiol er mwyn symud ymlaen tuag at dreialon clinigol. Yn y pen draw, mae'r gwyddonwyr yn gobeithio datblygu'r dechnoleg trwy'r llwybr Cynnyrch Meddyginiaeth Therapi Uwch (ATMP), gan ddod gam yn nes at ddefnyddio'r ffurf addawol newydd hon o therapi genynnol mewn cleifion yng Nghymru.
Os yn llwyddiannus, gallai'r dull arloesol hwn arwain at driniaethau mwy manwl a pherthnasol i gleifion canser y fron yng Nghymru. Gellir addasu'r platfform hefyd i dargedu mathau eraill o ganser, gan ehangu ei fanteision i fwy o gleifion yn y dyfodol.