Symud at y prif gynnwys

Ymchwil Canser Cymru yn lansio arwerthiant o gofroddion o bennod olaf Gavin and Stacey

Clepiwr wedi’i lofnodi a chrysau pêl-droed o noson ‘stag’ Smithy yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant

Gall selogion Gavin and Stacey wneud cynigion mewn arwerthiant elusennol cyffrous i brynu celfi ac eitemau a ddefnyddiwyd wrth ffilmio pennod olaf y gyfres – gan gynnwys clepiwr wedi’i lofnodi a chrysau pêl-droed o noson ‘stag’ Smithy.

Darlledwyd y gomedi sefyllfa annwyl, a oedd yn adrodd hanes pâr a oedd wedi syrthio mewn cariad, sef Stacey o’r Barri a Gavin o Billericay, am y tro cyntaf yn 2007.

Rhoddodd y sioe, a gafodd ei chreu a’i hysgrifennu gan Ruth Jones a James Corden, a oedd hefyd yn serennu ynddi, Ynys y Barri ar y map, a chipiodd nifer o wobrau, gan gynnwys y wobr am y Gomedi Deledu Orau yng Ngwobrau Comedi Prydain yn 2008.

Cafodd effaith enfawr ar ddiwylliant poblogaidd, a swatiodd 12.3 miliwn o bobl i wylio diweddglo’r gyfres, y bu disgwyl mawr amdano, ar Ddydd Nadolig 2024.

Eitemau’n syth o’r bennod olaf

Mae ein Harwerthiant Elusennol o Gofroddion Gavin and Stacey yn cynnwys eitemau o’r bennod olaf, a roddwyd yn garedig gan grewyr y gyfres.

Maen nhw’n cynnwys y crysau pêl-droed West Ham go iawn a wisgwyd gan James Corden, Rob Brydon a Mathew Horne yn y golygfeydd o noson ‘stag’ ddrwgargoelus Smithy, a chlepiwr sydd wedi’i lofnodi gan aelodau’r cast, gan gynnwys Ruth Jones, James Corden, Joanna Page, Rob Brydon a Mathew Horne.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: “Rydym yn gyffrous ac yn freintiedig dros ben o fod wedi cael yr eitemau bendigedig hyn gan Tidy Productions – un o’r cwmnïau y tu ôl i Gavin and Stacey ‘The Finale’.

“Ymddangosodd llawer o’r eitemau yn y bennod olaf – gan gynnwys crysau pêl-droed West Ham Smithy, Gavin ac Uncle Bryn o noson ‘stag’ Smithy – ac mae gennym glepiwr sydd wedi’i lofnodi gan aelodau’r cast. Mae’r rhain wir yn eitemau unigryw ac yn gwireddu breuddwyd i selogion Gavin and Stacey.

“Felly, os ydych chi’n hoff o Gavin and Stacey neu os ydych chi eisiau cyfle i brynu cofrodd unigryw ar gyfer rhywun yn eich bywyd sy’n un o selogion Gavin and Stacey, gwnewch gynnig yn ein harwerthiant. Drwy wneud cynnig am yr eitemau arbennig hyn, gallwch ein helpu i uno Cymru yn erbyn canser drwy godi arian i ariannu ymchwil canser o safon fyd-eang yma yng Nghymru.”

Beth sydd ar werth

  • Clepiwr a ddefnyddiwyd wrth ffilmio’r bennod olaf, wedi’i lofnodi gan aelodau’r cast – gan gynnwys Ruth Jones, James Corden, Rob Brydon, Joanna Page a Mathew Horne.
  • Crys pêl-droed West Ham a wisgwyd gan James Corden, gyda’r enw ‘Smithy’ wedi’i argraffu ar y cefn, fel y gwelwyd yn y golygfeydd o noson ‘stag’ Smithy.
  • Crys pêl-droed West Ham a wisgwyd gan Mathew Horne, gyda sticer Spurs yn gorchuddio bathodyn West Ham, a’r enw ‘Smithy’ ar y cefn, fel y gwelwyd yn y golygfeydd o noson ‘stag’ Smithy.
  • Crys pêl-droed West Ham a siorts pêl-droed gwyn a wisgwyd gan Rob Brydon, gyda’r enw ‘Smithy’ wedi’i argraffu ar y cefn, fel y gwelwyd yn y golygfeydd o noson ‘stag’ Smithy.
  • Paentiad tirlun a oedd yn hongian ar y wal yn nhŷ Gwen.
  • Paentiad o ffiol o flodau a oedd yn hongian ar y wal yn nhŷ Gwen.
  • Crys ‘hwdi’ ‘Gavin and Stacey – the finale’ aelod o’r criw cynhyrchu (maint mawr).
  • 2 x set DVD ‘Gavin and Stacey – The Complete Collection (2025)’ – sy’n cynnwys Cyfres 1, Cyfres 2, Pennod Arbennig Nadolig 2008, Cyfres 3, Pennod Arbennig Nadolig 2019, a’r Bennod Olaf.
  • Set DVD ‘Gavin and Stacey – The Complete Collection (2009)’ – sy’n cynnwys Cyfres 1, Cyfres 2, Pennod Arbennig Nadolig 2008 a Chyfres 3.
  • DVD ‘Gavin and Stacey – The Finale (2025)’.

Daw’r holl eitemau (ac eithrio’r DVDs) â llythyr dilysrwydd gan Tidy Productions.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd