Symud at y prif gynnwys

Ymchwil Canser Cymru yn addo £1 miliwn i ymchwil tiwmorau'r ymennydd

Mae Ymchwil Canser Cymru yn dod â gobaith i bobl sy'n byw gyda thiwmorau'r ymennydd, eu teuluoedd a'u hanwyliaid heddiw gyda lansiad rhaglen ymchwil gwerth £1 miliwn

Mae Ymchwil Canser Cymru yn sefydlu Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd i ariannu ymchwil arloesol i diwmor yr ymennydd yng Nghymru.

Bydd yn sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ymchwil a thriniaeth tiwmorau'r ymennydd ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i wyddonwyr o'r clefyd.

Yn ychwanegol, bydd Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd yn datblygu triniaethau newydd i achub ac ymestyn bywydau a darparu gwell cefnogaeth i bobl sydd â thiwmorau ar yr ymennydd

Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil Ymchwil Canser Cymru - yr unig elusen sy'n gwbl ymroddedig i ariannu ymchwil canser yng Nghymru i Gymru:

"Mae cynnydd o 39% wedi bod yn nifer yr achosion o diwmor sylfaenol ar yr ymennydd yn y DU ers y 1990au gyda dros 400 o'r rhain yn digwydd yn flynyddol yng Nghymru.

"Yn wahanol i lawer o fathau eraill o ganser, prin y mae cyfraddau goroesi cleifion tiwmor yr ymennydd wedi gwella dros y 30 mlynedd diwethaf. Ychydig iawn o driniaethau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno yn ystod y cyfnod hwn ac anaml iawn y bydd cyfraddau goroesi hir-dymor ar gyfer y mathau mwyaf ymosodol o diwmor yr ymennydd yn fwy na 10%", ychwanegodd.

Meddai Dr Lee Campbell: "Er bod canlyniadau gwell i’w cael gyda thiwmorau ymennydd cynradd plentyndod, mae natur y triniaethau presennol yn golygu bod y plant hyn yn aml yn ei chael hi'n anodd byw bywydau cwbl annibynnol fel oedolion. Mae angen strategaethau triniaeth newydd a mwy caredig i’r corff sydd nid yn unig yn gwella cyfraddau goroesi ymhellach, ond yn bwysig yn lleihau sgîl-effeithiau hirdymor a nam gwybyddol".

"Bydd Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru y fenter cyntaf o’i math yng Nghymru a bydd yn sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang ar gyfer clefyd sy'n hynod o anodd ei drin."

Cael gwell dealltwriaeth o'r clefyd

Bydd y rhaglen, sy'n bwriadu buddsoddi hyd at £1 miliwn bob blwyddyn ar gyfer astudio tiwmorau'r ymennydd, yn dod â gwyddonwyr, clinigwyr a niwrolawfeddygon o bob rhan o Gymru at ei gilydd, i gydweithio i gael gwell dealltwriaeth o'r clefyd.

Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at ddatblygu therapïau newydd a mwy caredig sydd nid yn unig yn cynyddu cyfraddau goroesi ond sydd hefyd yn darparu gwell cefnogaeth a gwella ansawdd bywyd cleifion tiwmor yr ymennydd ym mhobman.

Stori Alex: Byw gyda Tiwmor ar yr Ymennydd

Mae Alex Aghili yn wraig ac yn fam 50 oed o'r Fenni. Yn 2017, cafodd Alex drawiad ar yr ymennydd tra roedd hi'n cysgu.
Cafodd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd a'i hanfon i Lundain am craniotomi i'w dynnu.

Aeth fy myd ar chwâl

"Aeth fy myd ar chwâl. Roeddwn i mor ofnus. O'n i jyst yn meddwl 'Sut fydda i'n ymdopi?'; 'Sut byddaf yn fam dda ac yn wraig?'; 'Pam fi?' Gwelais fy rhieni yn crynu ac yn crio ac fy ngŵr yn ceisio ei anoddaf i fod yn gryf", meddai Alex.

"Doeddwn i byth yn deall yn iawn beth oedd ystyr y gair 'Teulu' tan y diwrnod hwnnw. Roedd fy rhieni a fy ngŵr yn anhygoel y ffordd y gwnaethon nhw fy nghefnogi yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae angen i chi ddal gafael ar y bobl sy'n eich caru chi i'ch cadw'n gryf."

Ar ôl cael gwared ar y tiwmor yn Llundain, dywedwyd wrth Alex am y newyddion trychinebus bod ganddi ganser yr ymennydd. Dychwelodd i Gymru a helpodd ei theulu i gael Alex drwy'r wythnosau a'r misoedd i ddod.

'Gall creonau sydd wedi torri liwio o hyd'

"Roedd angen i mi fod adref yng Nghymru lle byddwn yn teimlo'n gryfach i ddelio ag ef. Mae wedi bod yn daith flinedig lle mae dyddiau wedi bod pan dwi wedi teimlo wedi torri, ond mae gen i ddywediad sy'n fy nghadw i fynd - 'Gall creonau sydd wedi torri liwio o hyd'.
"Oni bai am fy nheulu, fy ffrindiau a'r angylion gwarcheidiol gwych yr wyf wedi croesi llwybrau â nhw ar y daith hon nid wyf yn siŵr y byddwn wedi dod drwyddi", adlewyrchodd Alex.
Gobaith

Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae Alex yn dal i gael archwiliadau iechyd rheolaidd a sganiau MRI ond mae ei hadfwyio gydag egni o'r newydd ac yn ddiolchgar am yr ymchwil a wnaeth ei thriniaethau yn bosible.

Mae Alex yn rhoi gobaith i eraill sydd yng nghamau cynnar eu diagnosis ac mae’n gwybod yn iawn cymaint o wahaniaeth y mae gobaith yn ei wneud.

"Hoffwn pe bawn i wedi cael rhywun fel fi yn y dyddiau cynnar hynny i roi gobaith i mi. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn i fod lle'r ydw i nawr. Dwi'n dal yma ac yn byw'r bywyd gorau y galla i - dwi'n caru a gwerthfawrogi amser gyda fy nheulu - fy ngŵr Leo, mab Taylan a fy mam Kay."

"Rwy'n ddyledus i'r ymchwil a alluogodd fy nhriniaeth ac i'r tîm anhygoel sydd wedi gofalu amdanaf."

Edrych i'r dyfodol gyda gobaith go iawn

"Heb os, mae fy mhrofiad o ganser wedi fy newid. Mae rhai pethau yr wyf wedi gorfod eu derbyn na allaf eu gwneud mwyach, megis marchogaeth fy ngheffyl. Mae'r canser wedi dwyn fy hyder yn y cyfrwy. Ar ôl i mi ddisgyn o fy ngheffyl, sylweddolais fod yn y frwydr o ran fy angerdd am geffylau, mai canser ennillodd, felly nid wyf yn marchogaeth bellach," meddai Alex.

"Mae effaith ariannol canser hefyd wedi golygu fy mod wedi rhaid defnyddio fy holl gynilion er mwyn i mi allu byw a thalu rhent, ond gallaf edrych ymlaen at y dyfodol gyda gobaith go iawn, mwynhau amser gyda fy nheulu ac agor fy nghalon a fy mywyd i brofiadau newydd nad oeddwn i'n meddwl y byddai byth yn bosibl."