Symud at y prif gynnwys

Ymchwil Canser Cymru yn croesawu’r adroddiad CReST newydd

Adroddiad yn manylu ar gynnydd ledled Cymru, gyda Ymchwil Canser Cymru fel chwaraewr allweddol

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi croesawu cyhoeddi'r adroddiad newydd: 'Strategaeth ymchwil canser Cymru, CReSt: dathlu ein cynnydd ar y cyd' gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru.

Wedi'i gyhoeddi i gyd-fynd â chynhadledd Canolfan Ymchwil Canser Cymru 2026, mae'r adroddiad yn nodi tair blynedd ers i Strategaeth Ymchwil Canser Cymru (CReSt) gael ei chyflwyno yn 2022 i gryfhau ymchwil canser ledled Cymru drwy gydweithrediad rhwng prifysgolion, y GIG, elusennau a phartneriaid diwydiannol.

"Mae Ymchwil Canser Cymru yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad hwn sydd yn amlygu'r cynnydd a wnaed ym maes ymchwil canser ledled Cymru yn y blynyddoedd diwethaf," meddai Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil Ymchwil Canser Cymru.

"Ni yw'r elusen ymchwil canser Cymreig a rydym wedi buddsoddi dros £41.86 miliwn i arianu'r ymchwil ddiweddaraf ym maes diagnosis a thriniaeth canser yng Nghymru ers i ni gael ein sefydlu yn 1966. Mae'r adroddiad hwn yn dangos ein bod yn chwarae rhan flaenllaw gydag arloesi ym maes ymchwil canser yng Nghymru."

Rhoi sylw i gyllido Ymchwil Canser Cymru

"Mae ein Menter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd, a sefydlwyd gennym i fynd i'r afael â'r diffyg cynnydd gyda gofal am gleifion â thiwmorau'r ymennydd dros y 30 mlynedd diwethaf, yn enghraifft allweddol o'n gwaith arloesol ac mae'r fenter wedi ei hamlygu yn yr adroddiad newydd hwn," ychwanegodd Dr Lee Campbell.

"Mae tri o'n treialon clinigol arloesol - COLOSPECT, BiCCC a ThinkCancer! - hefyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad am eu cyfraniad tuag at wella triniaeth, diagnosis cynnar a sgrinio canser yng Nghymru. Mae'n galonogol gweld y gwaith mawr hwn yn cael ei gydnabod ar y lefel hon gan ein cyd-ymchwilwyr yn y gymuned ymchwil canser."

Dengys yr adroddiad bod 11,546 o gleifion Cymreig wedi cymryd rhan mewn astudiaethau clinigol dros y tair blynedd diwethaf. Ac mae astudiaethau a gyllidwyd gan Ymchwil Canser Cymru yn gyfrifol am bron i 20% o'r cyfanswm hwnnw, gan ddangos effaith sylweddol ein gwaith ar lefel genedlaethol.

Gweld y potensial

Yn ogystal, mae sawl un o'r 'uchafbwyntiau ymchwil' a sonnir amdanynt yn yr adroddiad wedi elwa o gefnogaeth flaenorol gan Ymchwil Canser Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys treial clinigol firotherapi ATTEST a'r cwmni Awen Oncology, sydd ill dau wedi'u seilio ar ymchwil a fu'n cael ei hariannu gennym dros nifer o flynyddoedd.

"Ni ellir tanbrisio effaith y gefnogaeth gynnar gan Ymchwil Canser Cymru, yn darparu'r sylfeini ar gyfer y llwyddiannau presennol. Rydym yn gyffrous i weld y potensial y gwelsom yn gynnar yn dwyn ffrwyth," meddai Dr Lee Campbell.

Mwy i'w wneud

Er bod y cynnydd a'r llwyddiant a welir yn yr adroddiad newydd yn ysbrydoledig iawn, mae dal llawer mwy i'w wneud. Yn anffodus, mae Cymru yn dioddef o ganlyniadau gwael ac anghyfiawnderau eang ar gyfer canser, felly mae cyfle sylweddol i wella ac achub bywydau ledled y wlad.

Bydd Ymchwil Canser Cymru, fel yr elusen ymchwil canser Cymreig, yn parhau i gefnogi'r gwyddonwyr a'r clinigwyr gorau i wthio'r ffiniau ac adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud.

"Byddem yn hoffi diolch i'r holl wyddonwyr, clinigwyr a chleifion yr ydym wedi eu hariannu a fu'n rhan o'n hastudiaethau. Yn bwysig, hoffem hefyd ddiolch i'n holl gefnogwyr a gwirfoddolwyr, oherwydd heb eu hymdrechion hwy, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl. Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth, fel Cymru wedi ei uno yn erbyn canser," gorffennodd Dr Campbell.