Symud at y prif gynnwys

Dilys, 90, yn dathlu 25 mlynedd o wirfoddoli i Ymchwil Canser Cymru

“Byddaf yn ei argymell i unrhyw un. Rwyf yn cael cymaint o foddhad”, meddai Dilys

Mae menyw hoffus o Gaerdydd, sydd yn 90 oed, yn dathlu 25 mlynedd o wirfoddoli yn ei siop Ymchwil Canser Cymru leol.

Mae Dilys Llewellyn yn boblogaidd gyda'r staff, ei chyd-wirfoddolwyr a'r cwsmeriaid yn y siop yn ardal Yr Eglwys Newydd.

Cymwynas i ffrind

Dechreuodd Dilys wirfoddoli pan alwodd i mewn i'w siop leol yn 2001 i wneud cymwynas ar gyfer ffrind, fel y mae'n esbonio:

“Rwyf wedi bod yn wirfoddolwr siop Ymchwil Canser Cymru ers 25 mlynedd. Dechreuais un diwrnod pan es i â'm gŵr diweddar, Ken, oedd yn dioddef o arthritis difrifol, allan i gael ychydig o awyr iach. Roeddem yn pasio'r siop Ymchwil Canser Cymru ac roedd fy ffrind i, oedd yn rheolwr yno, y tu ôl i’r til,” meddai Dilys.

“Fe alwodd hi fi i mewn a gofyn i mi edrych ar ôl y til tra aeth hi am ginio. Mi roes i Ken i eistedd mewn cadair ac mi es i sefyll tu ôl i'r til ac felly y dechreuodd pethau. Roeddwn i’n gwirfoddoli a byddai Ken yn eistedd yn y gadair – roeddwn yn gwneud hwyl mai ef oedd y dyn ‘security’,” chwarddodd Dilys.

Lle cyfeillgar iawn

Dywed y wraig 90 oed egnïol, sydd wedi bod yn ddawnsiwr dawnsfa frwd ers ei bod yn 13 mlwydd oed, ei bod yn mwynhau siop Ymchwil Canser Cymru oherwydd ei bod yn lle cyfeillgar iawn.

“Dwi wrth fy modd yn cwrdd â phobl ac o hyd wedi hoffi bod gyda phobl a dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau yn Ymchwil Canser Cymru. Mi rydym ni’n edrych ar ôl ein gilydd ac mae’n lle hynod gyfeillgar. Mae’r siop yn gymuned fach ei hun ac mae’n braf bod yn rhan o hynny.

“Y peth gorau am wirfoddoli yma yw bod ar y til. Pan gafodd y tiliau cyfrifiadurol eu cyflwyno yma blynyddoedd yn ôl, roeddwn i bron â gadael oherwydd hynny, ond mi ddywedodd Pam, y rheolwr yma ar y pryd, y byddai’n dysgu i fi sut i’w ddefnyddio ac fe roddodd hynny ymdeimlad gwych o lwyddiant i mi,” esboniodd Dilys.

Mae angen mwy o wirfoddolwyr

Dywedodd Dilys, yn ogystal â gwneud ffrindiau, fod gwirfoddoli gydag Ymchwil Canser Cymru yn rhoi boddhad iddi hi, ond mae angen mwy o wirfoddolwyr ar yr elusen.

“Collon ni lawer o wirfoddolwyr yn ystod Covid, sydd yn drist, ac mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom. Byddwn yn argymell gwirfoddoli gydag Ymchwil Canser Cymru i bawb oherwydd mae mor werth chweil. Mae’r staff a’r cwsmeriaid yn neis,” meddai.

Dim yr un fath hebddi hi

Amanda Jenkins yw rheolwr siop Ymchwil Canser Cymru ar 78A Heol Tŷ’n-y-Pwll yn yr Eglwys Newydd, ac mi eglurodd:

“Mae Dilys bob amser yn gwenu ac mae ei hegni a’i brwdfrydedd yn heintus – mae fel ei bod hi’n llythrennol yn goleuo'r ystafell ac mae pawb yn ei charu hi: y staff, gwirfoddolwyr a’r cwsmeriaid sy'n dod i'r siop i brynu bargen neu i adael eu rhoddion gyda ni. Tydi’r siop ddim yr un fath hebddi hi yma ac mae llawer o gwsmeriaid yn dod i siopa yma ar fore Gwener yn unswydd oherwydd bod Dilys yma.

“Rydym yn eithriadol o lwcus ei bod yn rhoi ei hamser mor hael i'n helpu ac ni allaf ddiolch iddi ddigon am yr holl amser a gyfrannodd dros y blynyddoedd i helpu Ymchwil Canser Cymru gyda'n cenhadaeth o uno Cymru yn erbyn canser trwy ariannu ymchwil o'r radd flaenaf.”

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd