Symud at y prif gynnwys

Edrych yn ôl dros 2025

Mae'r flwyddyn hon wedi gweld Ymchwil Canser Cymru yn cyrraedd uchelfannau newydd fel un o'r prif arianwyr ymchwil canser yng Nghymru gan barhau i wthio’r ffiniau gyda datblygu triniaethau a diagnostegau newydd ar gyfer cleifion canser heddiw ac yfory

Mae ein tîm Ymchwil wedi bod yn brysur iawn, gyda nifer heb ei hail o geisiadau ariannu wedi eu derbyn eleni.

Ariannu ymchwil Newydd

Mae Ymchwil Canser Cymru yn bodoli i gefnogi'r ymchwil canser gorau ledled Cymru ac mae 2025 wedi gweld ni'n ariannu nifer o brosiectau newydd cyffrous.Y llynedd buom yn siarad am lansio ein Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI), a gyhoeddwyd gennym yn 2024 fel datblygiad mawr newydd i'r elusen. 

Roeddem yn falch iawn o dderbyn llawer o ddiddordeb yn BATRI a nifer o geisiadau o ansawdd uchel am ariannu, a dyrannwyd cyfanswm o £1 miliwn gennym i saith prosiect ymchwil.

Mae'r prosiectau a ariannwyd yn cwmpasu ystod o bynciau ymchwil ar draws profiadau cleifion â thiwmorau'r ymennydd. O brosiect yn archwilio defnyddio sganiau MRI mwyafdiweddar ar gyfer plant gyda thiwmorau'r ymennydd, trwy astudiaeth yn safoni anghenion gofal cleifion â thiwmorau'r ymennydd i eraill yn datblygu meddyginiaethau newydd sydd yn benodol yn targedu celloedd canser yn yr ymennydd, mae lledaeniad yr ymchwil rydym yn ei ariannu yn wych i'w weld.

Rydym yn buddsoddi £1 miliwn arall yn BATRI eleni, felly cadwch olwg yn gynnar yn 2026 am newyddion am ragor o brosiectau newydd wedi'u cyllido.Hefyd yn 2025, rhoesom gyllid i pump PhD newydd fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser yng Nghymru. 

Wedi'u dosbarthu ar draws prifysgolion Bangor, Caerdydd a Chaerfyrddin, mi fydd y prosiectau hyn yn cynnig hyfforddiant i wyddonwyr ifanc ac yn darparu ymchwil canser o ansawdd uchel.

Mae'r prosiectau newydd yn cwmpasu meysydd gan gynnwys dylunio cyffuriau gwrth-ganser newydd, peirianneg bacteria i ymosod ar gelloedd canser a chreu modelau labordy o ganser y brostad er mwyn helpu ein dealltwriaeth o'r afiechyd. Rydym wrth ein bodd i allu cefnogi'r gwaith hwn ac yn dymuno'r gorau i'r myfyrwyr PhD newydd eu penodi gyda'u gwaith.

Cynhadledd Tiwmorau’r Ymennydd

Roedd Dydd Gwener 19 Medi 2025 yn ddiwrnod cyffrous iawn i’n helusen, wrth i ni gynnal y Gynhadledd Tiwmorau’r Ymennydd Ymchwil Canser Cymru gyntaf erioed.

Mae ein Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd yn bwriadu meithrin cymuned ymchwil ffyniannus yng Nghymru trwy ddod ag academyddion, clinigwyr a chleifion ynghyd i weithio ar y cyd ac arloesi. Roedd cynnal cynhadledd tiwmorau’r ymennydd yn gam allweddol tuag at gyflawni hyn.

Roedd yn ddigwyddiad rhyngwladol ac yn gynhadledd gyntaf o’i math yng Nghymru ac roeddem wedi ein syfrdanu gan y lefel o ddiddordeb ac ymgysylltiad a gafodd.

Gyda bron i 100 o gyfranogwyr, dau siaradwr rhyngwladol a rhaglen eang o gyflwyniadau, roedd y gynhadledd yn gyfle gwych a dangosodd y gwaith ymchwil tiwmorau'r ymennydd ardderchog sy’n digwydd ledled Cymru.

Meddai Dr Florian Siebzehnrubl, arweinydd gwyddonol ar Bwyllgor Llywio BATRI:

“Ces i fy synnu’n fawr gan y diddordeb cryf gan ymchwilwyr, clinigwyr, a gweithwyr proffesiynol yn y Gynhadledd Tiwmorau’r Ymennydd. Tynnodd y nifer o gyfraniadau a gawsom sylw at y lefel anhygoel o ymchwil canser yr ymennydd ar draws pob thema o BATRI. Clywsom araith ragorol gan ein siaradwyr allweddol, a hefyd gan gyfranwyr lleol. Rwy’n credu bod y gynhadledd wedi bod yn llwyddiant gwych.”

Trafod ein gwaith

Mae Ymchwil Canser Cymru yn dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr er mwyn gallu ariannu ein hymchwil anhygoel ac felly mae'n hanfodol ein bod yn lledaenu'r wybodaeth am ein gwaith, er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a hefyd i roi rhywbeth yn ôl i'n cefnogwyr wrth ddangos iddynt hwy'r effaith mae eu codi arian yn ei chael.

Eleni, roeddem yn falch iawn o ddychwelyd i'r Sioe Frenhinol Gymreig a'r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd eleni yn Wrecsam. Mae'r ddau ddigwyddiad hyn yn uchafbwyntiau gwirioneddol yn y calendr i lawer o bobl yng Nghymru a'r tu hwnt, felly fel elusen Gymreig maent yn cynrychioli cyfle gwych i gyfathrebu ein gwaith i gynulleidfa

eang. Roedd yn wych gweld llawer o bobl yn ymgysylltu â'n stondinau a gwnaethom lawer o gysylltiadau defnyddiol yn ogystal â chynnal rhai sgyrsiau hwylus a diddorol.

Dros y flwyddyn, rydym wedi cynnal sawl taith o’r labordai rydym yn eu hariannu ar gyfer cefnogwyr gwahanol, ac maent wedi bod yn boblogaidd iawn. Un o'r uchaf bwyntiau oedd ym mis Awst pan ddaeth Miss Word - Opal Suchata Chuangsri, i ymweld â'n hymchwilwyr a noddir gennym yng Nghaerdydd, yn dilyn gwahoddiad gan ein llysgennad a'r Miss UK presennol - Millie-Mae Adams. Fel un sydd wedi goroesi canser, roedd Opal yn gweld y daith fel cyfle gwych i weld yn uniongyrchol pŵer ymchwil.

Rydym hefyd wedi cael y cyfle i ddangos ein hymchwil i gannoedd o bobl ledled Cymru trwy siarad hefo grwpiau cymunedol, ysgolion a mwy – mae’r rhain bob amser yn ddigwyddiadau gwych ac mae'n ein hysbrydoli i weld lefel y diddordeb sydd gan bobl o bob oedran yn ein gwaith. Rydym bob amser yn chwilio am fwy o bobl i siarad â nhw, felly cysylltwch â ni os yw eich clwb neu grŵp eisiau clywed mwy am Ymchwil Canser Cymru.

Cenhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell

Yn 2025, daeth Ymchwil Canser Cymru yn bartner yng Nghenhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell. Mae hon yn fenter ledled y DU sy’n ceisio gwella safonau triniaeth, gofal ac ymchwil canser yr ymennydd. Cydnabuwyd bod ein haelodaeth yn ffactor pwysig a arweiniodd at Rwydwaith Niwro-Oncoleg De Cymru yn Abertawe a Caerdydd yn cael eu dynodi’n Ganolfannau Rhagoriaeth Tessa Jowell am eu gwasanaethau canser yr ymennydd.

Y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr

Un elfen allweddol o’n gwaith yw darparu cyfleoedd i ymchwilwyr yng Nghymru ddatblygu eu hunain a’u hymchwil. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy’n cymryd eu camau cyntaf ar eu taith ymchwil trwy wneud PhD. Eleni, cwblhaodd un o’n myfyrwyr PhD rydym wedi ei chyllido ei astudiaethau – llongyfarchiadau i Dr Amy Houseman!

Edrych ymlaen

Wrth i ni edrych tuag at y dyfodol, mae rhai datblygiadau gwirioneddol gyffrous ar y gorwel i Ymchwil Canser Cymru.

Y flwyddyn nesaf byddwn yn dathlu ein pen-blwydd 60, sy’n disgyn yn 2026. Wedi’i sefydlu yn 1966, mae’r elusen wedi bod yn flaenllaw ym maes ymchwil canser ledled Cymru ers bron i chwe degawd – rydyn ni’n falch iawn o’n cyfraniad dros y cyfnod hwnnw. Mae gennym gynlluniau cyffrous i nodi’r pen-blwydd, felly edrychwch allan am newyddion.

Ar hyn o bryd rydym yn ariannu pedwar treial clinigol sy’n digwydd ar hyd Cymru ac maent yn llawn gobeithion o ran darparu canlyniadau gwell i gleifion. Mae’r holl dreialon hyn yn datblybu yn dda, gyda sawl mil o gleifion Cymreig wedi’u recriwtio i gymryd rhan hyd yn hyn. Byddwn yn clywed am ganlyniadau’r treialon hyn dros y flwyddyn neu ddwy nesaf a chredwn yn onest fod ganddynt y potensial i wneud gwahaniaeth mawr i gleifion yng Nghymru a thu hwnt yn y dyfodol.

I gloi

Rydym yn byw mewn amseroedd anodd ac mae llawer o bobl a sefydliadau yn wynebu prinder ariannol, gan gynnwys y GIG yng Nghymru. 

Gyda'r etholiadau Seneddol yn 2026 yn debygol o arwain at nifer o Aelodau Seneddol newydd, byddwn yn parhau i bwyso’r achos bod ymchwil yn gallu darparu atebion sy'n gallu gwneud effaith sylweddol i gleifion. Dylai ymchwil fod wrth galon gofal iechyd, nid ‘bonws ychwanegol’.

Wrth i ni edrych tuag at 2026, gobeithiwn y byddwch yn parhau i'n cefnogi yn ein gwaith. O gymryd rhan yn ein digwyddiadau codi arian, i siopa; gwirfoddoli neu roi nwyddau i'n siopau, gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys neu rannu ein cynnwys cyfryngau cymdeithasol, mae llawer o ffyrdd y gallwch ein helpu i greu dyfodol mwy disglair i gleifion canser yng Nghymru.

Gan ein holl staff yn Ymchwil Canser Cymru, dymunwn Nadolig Llawen iawn a blwyddyn newydd hapus ac iach i chi yn 2026!