Symud at y prif gynnwys

Herio’r dŵr oer er cof am anwylion

Pump o gyfeillion yn dipio dŵr oer i Ymchwil Canser Cymru

Dip neu Bellter?

Pryn bynnag ffordd y byddwch yn dewis cymryd rhan, byddwch yn helpu i ddod â gwell triniaethau'n agosach at gartref i gleifion ledled Cymru.

Cofrestrwch nawr

Mae pum ffrind o Dde Cymru yn cymryd rhan mewn dip dŵr oer elusennol yng Nghaerdydd ar 28 Mawrth er cof am anwyliaid y maent wedi’u colli i ganser.
  
Cwrddodd y Devoted Dippers ar Wŷl San Steffan ychydig flynyddoedd yn ôl a maent wedi bod yn nofio ac yn dipio dŵr oer mewn lleoliadau ar hyd a lled yr ardal ers hynny.

Un o'r lleoedd maen nhw'n hoffi cyfarfod i ymdrochi yw Cronfeydd Dŵr Llysfaen a Llanisien yng ngogledd Caerdydd.  

A dyna le y byddant yn cymryd rhan mewn dip dŵr oer i godi arian i Ymchwil Canser Cymru yn y digwyddiad Dip neu Bellter, ddiwedd mis hwn.  

Dyma ymgyrch codi arian her nofio neu ddipio dŵr oer gyntaf yr elusen ymchwil canser Cymreig.

Mae'n anrhydedd gwneud hyn

“Grŵp bach o ffrindiau gyda phrofiadau bywyd tebyg a ddechreuon ni nofio gyda'n gilydd ychydig flynyddoedd yn ôl ar Wŷl San Steffan oer iawn ydi’r Devoted Dippers”, meddai Philippa Williams sy'n 63 ac o Benarth. “I mi'n bersonol mae'n anrhydedd gwneud hyn er cof am fy mrawd-yng-nghyfraith Berne a fu farw o fewn dau fis ar ôl ei ddiagnosis. 

Mae hefyd yn ffordd o gasglu arian fel y gall mwy o bobl fel fy ffrind, a gafodd ddiagnosis yn gynnar, a chael llawdriniaeth ac oedd yn rhydd o ganser o fewn chwe mis, barhau i fyw bywydau llawn.”

“Rydym yn hoff iawn o ymdrochi yng Nghronfeydd Llysfaen a Llanisien oherwydd ein bod yn gwybod bod staff wrth law i'n hatgoffa am faint o amser y gallwn aros yn y dŵr yn ddiogel ac i'n cefnogi. Mae cawodydd cynnes hyfryd i'n gwobrwyo ar ôl bod yn y dŵr ac mae caffi hyfryd ar gyfer ein sgyrsiau wedyn! Ac wrth ymdrochi yn y llyn, mae'r tawelwch yn fendigedig. Mae'r dŵr bob amser yn dawel, rydym yn aml yn cael cwmni gan ychydig o hwyaid, mae'r awyr yn newid yn barhaus - beth sydd ddim i'w garu?” meddai hi.

Teimlad o les a phen clir

Mae Wendy Huins yn 57 ac yn dod o Ystum Taf ac yn dweud bod ymdrochi mewn dŵr oer yn rhoi hwb gwirioneddol iddi:

"Mae ymdrochi mewn dŵr oer yn ymarfer corff anhygoel, ond i mi, mae'n llawer mwy na hynny. Hyd yn oed ar ddyddiau caletaf bywyd, mae camu i'r dŵr yn dod â theimlad goliwiedig o les a phen clir i mi. Mae'r hwb i fy iechyd meddyliol yn wirioneddol bwerus. Ac yna mae'r gymuned — y chwerthin, y sgwrs, y cyfeillgarwch wrth nofio gyda'n gilydd. Mae'n deimlad arbennig."

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi gwylio gormod o ffrindiau a chydweithwyr yn brwydro â chanser. Collais ffrind prifysgol yn 2024, ac ym Mehefin diwethaf, collodd cydweithiwr annwyl a ffrind ers 30 mlynedd hefyd ei brwydr. 

Mae cymryd rhan yn ymgyrch Dip neu Bellter Ymchwil Canser Cymru yn ffordd i mi anrhydeddu eu cof - ac o wneud rhywbeth cadarnhaol wrth wynebu y tristwch hwn. Mae ymchwil yn hanfodol i ddod o hyd i driniaethau gwell ac i roi mwy o obaith i deuluoedd”, esboniodd Wendy.

Dip neu Bellter  – her nofio Ymchwil Canser Cymru

Dip neu Bellter yw her codi arian newydd sbon Ymchwil Canser Cymru ar gyfer mis Mawrth.  

Gall pobl sydd am gymryd rhan wynebu dip mewn dŵr oer mewn digwyddiad wedi'i drefnu yng Nghronfeydd Llysfaen a Llanisien ar 28 Mawrth.  

Gallant hefyd ddewis nofio pellter hir o'u dewis eu hunain mewn pwll nofio lleol.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru:

“Hoffwn ddiolch i’r Devoted Dippers – Philippa, Wendy, Penny, Anna ac Alison, a phawb arall sydd wedi cofrestru i gymryd rhan am eu holl ymdrechion codi arian hyd yma cyn ein dip dŵr oer Dip neu Bellter yng Ngogledd Caerdydd ar 28 Mawrth.

“Mae hwn yn amser cyffrous i ni fel elusen gan mai hwn yw her codi arian dipio dŵr oer a nofio cyntaf erioed Ymchwil Canser Cymru. Ni allwn wneud yr hyn a wnawn heb gefnogaeth pobl Cymru ac mae Dip neu Bellter yn ffordd wych arall y gall aelodau’r cyhoedd godi arian i ni a helpu i uno Cymru yn erbyn canser.”

“Felly cofrestrwch heddiw a naill ai nofio’r pellter o’ch dewis yn eich pwll lleol neu dewch i ymuno â ni yng Nghronfeydd Llysfaen a Llanisien a chymryd yr her dip dŵr oer gyda ni – chi sydd â’r dewis, ond pryn bynnag ffordd y dewiswch chi gymryd rhan, byddwch yn helpu i ddod â thriniaethau gwell yn agosach i gartref i gleifion ledled Cymru,” ychwanegodd Adam Fletcher.

Iechyd corfforol ac iechyd meddwl

Mae Ymchwil Canser Cymru yn cydweithio â Nofio Cymru i hyrwyddo Dip neu Bellter. 

Nofio Cymru yw'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru sy'n cynnwys nofio, polo dŵr, para-nofio, syrffio, nofio celfydd, dŵr agored a nofio meistr.

Dywedodd Sioned Williams-Owen, Pennaeth Chwaraeon Dŵr a Chynhwysiant Nofio Cymru: 

"Rydym yn gweld bob dydd yn Nofio Cymru pa mor bwerus y gall gweithgarwch dŵr fod ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae digwyddiadau fel Dip neu Bellter yn dangos sut y gall cymuned nofio a’r rhai sy’n newydd i’r gamp ddod at ei gilydd i gefnogi achosion pwysig wrth fwynhau manteision bod yn egnïol yn y dŵr. 

Rydym yn falch o bartneru ag Ymchwil Ganser Cymru ar y fenter hon ac yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli pobl ledled Cymru i gymryd rhan, boed hynny drwy fentro i’r digwyddiad dip dŵr oer neu nofio pellter yn eu pwll lleol."