Symud at y prif gynnwys

Cadeirydd Newydd i Fwrdd Ymddiriedolwyr Ymchwil Canser Cymru

Gavin Moore sy'n arwain llywodraethiant elusen ganser Gymreig

Daw Gavin o Gaerdydd ac mae ganddo dros 25 mlynedd mewn uwch rolau rheoli ariannol ac arwain rhaglenni ar gyfer cwmnïau enwog mawr gan gynnwys BT, CBRE, EE ac Orange.

Dechreuodd ei yrfa fel cyfrifydd siartredig cyn symud i'r sector preifat ac mae ganddo arbenigedd mewn arwain a darparu rhaglenni newid busnes cymhleth; llywodraethu corfforaethol a chyllid a gweithrediadau busnes cyffredinol.

Mae cysylltiadau Gavin ag Ymchwil Canser Cymru yn mynd yn ôl mor bell â 2011 pan gafodd ei benodi'n un o ymddiriedolwyr y sefydliad.

Bu hefyd yn Drysorydd yr elusen rhwng 2016 a 2023 ac yn gadeirydd pwyllgor cyllid Ymchwil Canser Cymru.

Yn ogystal, mae gan Gavin gysylltiadau teuluol ag Ymchwil Canser Cymru gan fod ei dad - yr Athro John Moore, wedi dal nifer o rolau uwch dros 40 mlynedd gyda'r elusen, gan gynnwys Llywydd.

Wrth sôn am ei benodiad yn Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, dywedodd Gavin Moore: "Mae'n anrhydedd cael cais i fod yn Gadeirydd Ymchwil Canser Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at arwain yr elusen drwy ei cham twf cyffrous nesaf, gan adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi'i gyflawni gan dîm yr elusen. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu ein nod allweddol o gefnogi ymchwil o'r radd flaenaf yng Nghymru a chyflawni ein cenhadaeth i leihau effaith canser."