Gwirfoddoli gyda Ymchwil Canser Cymru: Stori Ellie
Mae Ellie Jose wedi bod yn gwirfoddoli ar gyfer Ymchwil Canser Cymru yn ein tîm Codi Arian a Digwyddiadau. Mae Ellie yn rhannu ei stori gyda ni i esbonio sut y mwynhaodd ei phrofiad gwirfoddoli ar gyfer Wythnos y Gwirfoddolwyr

Rheoli digwyddiadau
“Fi yw Ellie. Dwi o Lanilltud Mawr ac mae gennyf gefndir rheoli digwyddiadau a dwi wedi bod yn helpu un diwrnod yr wythnos gyda'r tîm Codi Arian a Digwyddiadau i ennill profiad ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.
“Dwi wedi cymryd rhywfaint o'r baich oddi ar y tîm Digwyddiadau a Chodi Arian, oherwydd maen nhw'n dîm bach, felly mae llawer o swyddi y gallaf helpu gyda nhw tra eu bod yn gwneud pethau eraill. Dwi wedi bod yn gwneud rhywfaint o'r gwaith stocio a'r gwaith gwasanaeth cwsmeriaid, fel anfon parceli i'n rhedegwyr a ysgrifennu'r nodiadau bach i'n cwsmeriaid.”
Gwneud gwahaniaeth mawr
"Rwyf wedi helpu gyda threfnu'r storfa. Mi dynnom ni bopeth allan mewn blychau, archwilio'r cynnwys, a rhoi threfn ar y stoc ac yn awr mae'r ystafell stor yn llawer mwy effeithiol. Er enghraifft, mi ddad-bacion ni yr holl offer a ddefnyddwyd ar gyfer digwyddiad dros y penwythnos ac fe wnaethom hynny mewn pum munud oherwydd roedd gan bobpeth nawr ei le a roedd pawb yn gwybod ble mae pethau'n perthyn ac mae popeth yn daclus ac wedi'i gadw'n dda ac fe wnes i'r rhan fwyaf ohono fy hun, i fod yn deg."
“Mae'r adborth rwyf wedi'i dderbyn yn dweud bod yr hyn a wnes i wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac mae'n gwneud popeth arall yn gyflymach ac rydym yn gallu bod yn fwy effeithiol ac effeithlon gyda'r amser ac rwyf wedi'i ddweud ei fod wedi gwneud bywyd pawb yn llawer haws."
Cael profiad ymarferol
"Mae gwirfoddoli gyda Ymchwil Canser Cymru wedi helpu fi oherwydd i Covid daro yn ystod fy ngradd, felly ni ges i gymaint o brofiad ymarferol ag y byddwn i wedi hoffi felly mae gwirfoddoli wedi llenwi'r bwlch sgiliau hwnnw ac ychwanegu at y profiad sydd gennyf. Mae bod wedi gallu gweithio yn agos cyswllt gyda Nic (Nic Clarke - Rheolwr Digwyddiadau Canser Cymru), sydd yn brofiadol iawn yn ei faes, wedi bod yn help mawr a gobeithiaf allu parhau i wneud hynny."
Helpu pobl
"Rwyf wedi teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth ac rwy'n hoffi teimlo fy mod yn helpu pobl gymaint â phosib, a mae canser wedi effeithio ar fy nheulu'n eithaf difrifol, felly mae teimlo fel fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn wych. Rwyf yn teimlo hefyd fy mod yn cael gwybodaeth bydd yn helpu gyda fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwyf hefyd yn hoffi bod yn brysur, felly gwneud cymaint â phosib a bod yn weithgar wrtho, rwy'n mwynhau hynny hefyd."
Helpu fi i gael swydd
"Mae gwirfoddoli yn sicr o helpu fi i gael swydd oherwydd bydd gennyf y enghreifftiau a'r profiadau hynny i’w defnyddio yn ystod cyfweliadau a phethau fel hynny. Efallai mai chi yw’r person cywir ar gyfer y swydd ond mae angen i chi gael y enghreifftiau hynny i ddangos y gallwch gyflawni'r pethau hynny a chredaf yn sicr y byddaf yn gallu gwneud hynny gyda'm amser yma. Rwyf wedi helpu yn y swyddfa a rwyf hefyd wedi cymryd rhan yn y digwyddiadau a gosod a thynnu’r offer i lawr a chael ymwenud a’n cwsmeriaid ac hefyd ymateb i ymholiadau stoc, felly mae'n amrywiol iawn ac mae gennyf lawer o enghreifftiau o brofiadau y gallaf eu defnyddio mewn cyfweliadau yn y dyfodol gobeithio."