Symud at y prif gynnwys

Helpu yn Ymchwil Canser Cymru

Cwblhaodd Joe Campbell, myfyriwr busnes 17 oed o Goleg Caerdydd a'r Fro, 40 awr o brofiad gwaith gyda ni yn ddiweddar

Cawsom sgwrs gyda Joe i glywed am ei amser yn Ymchwil Canser Cymru a'r hyn a ddysgodd yn ystod ei leoliad.

Felly Joe, diolch am ddod i wneud dy brofiad gwaith yma gyda ni yn Ymchwil Canser Cymru - beth wyt ti wedi ei dysgu o fod yma gyda ni a sut wyt ti'n credu y bydd hynny'n dy helpu?

Ers imi fod yma yn Ymchwil Canser Cymru, rwyf wedi gallu dysgu am sut mae'r broses ariannu i ymchwilwyr sy'n gwneud cais am grantiau gan yr elusen yn gweithio, yn ogystal â sut mae'r elusen yn trefnu ei gyllideb sy'n hynod ddefnyddiol. 

Mae hynny wedi rhoi cipolwg amhrisiadwy i mi i sut mae sefydliad yn gweithredu tu ôl y llenni sy'n amlwg yn wych ar gyfer fy nghymhwyster diploma busnes.

Ar lefel ymarferol, rwyf hefyd wedi cael y cyfle yma i helpu gyda thasgau o amgylch y swyddfa gan gynnwys gwaith gweinyddol cyffredinol a helpu gyda phostio deunyddiau i helpu recriwtio gwirfoddolwyr, ac mae’n debyg bod hynny wedi bod yn eithaf llwyddiannus, ac rwy'n hapus iawn â hynny.

Ydy e wedi bod yn brofiad da i ti?

Mae wedi bod yn brofiad da – 100% – cyfle gwych. Mae bod yma wedi rhoi'r cyfle i mi ddysgu am y gweithle a bod mewn gweithle go iawn. Bydd hynny'n ddefnyddiol i mi, a byddai hefyd i bobl eraill pan fyddant yn cychwyn gweithio, byddant yn fwy parod ac yn gwybod beth i'w ddisgwyl, ac felly byddant yn fwy hyderus ar eu diwrnod cyntaf. 

Mae fy mhrofiad gwaith gydag Ymchwil Canser Cymru eisoes wedi fy helpu i lawer ac rwy'n gwybod y bydd yn fy helpu gyda fy ngyrfa yn y dyfodol.

Beth sydd nesaf i ti, Joe, a wyt ti wedi mwynhau dy amser gydag Ymchwil Canser Cymru?

Rwyf wedi gorffen fy mhrofiad gwaith gydag Ymchwil Canser Cymru a’r cam nesaf i mi nawr yw ysgrifennu fy nhraethawd am fy mhrofiad gwaith o 40 awr yma a’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu. 

Byddaf yn tynnu sylw ar sut y bydd y profiad a ges i a’r hyn a ddysgais yma yn fy helpu pan af i i’r gweithle yn y pen draw.

Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod gwir wedi mwynhau fy mhrofiad gwaith yma gan fy mod â diddordeb mewn canser gan fy mod yn gwneud prosiect ymchwil ar ganser yng Nghymru, felly mae bod yma’n wych ac fe fydd hefyd yn helpu gyda hynny.

Byddwn yn sicr yn argymell profiad gwaith neu wirfoddoli i unrhyw un sydd angen profiad o fod mewn gweithle a dysgu sut i weithio gyda phobl eraill. Mae hefyd yn helpu i chi ddeall sut ych chi a’ch rôl yn cyd-fynd â sefydliad ac yn helpu i’w lwyddo.