Symud at y prif gynnwys

‘Gorffennais y cemotherapi, yna cwblheues i’r 3 Chopa'r Fenni dim ond ychydig ddyddiau yn ddiweddarach’: Stori John

Dim ond saith wythnos ar ôl cael diagnosis o lymphoma non-Hodgkin isradd ac wrth ddechrau cemotherapi, cwblhaodd y ffotograffydd John Sialens 3 Chopa y Fenni dros Ymchwil Canser Cymru

Fy enw i yw John Dasent. Yn ddiweddar, cefais ddiagnosis o lymphoma non-Hodgkins gradd isel. Dywedwyd wrthym y byddwn i angen chwech chylch o gemotherapi. Penderfynais fy mod i eisiau gwneud rhywbeth i gefnogi elusen canser ar ôl fy sesiwn gyntaf.

Ar ôl ychydig o ymchwil, darganfyddais Ymchwil Canser Cymru. Roedd fy meddwl wedi ei wneud - dyma’r elusen yr oeddwn i’n mynd i godi arian drosti.

Pan ddechreuais hyrwyddo fy her codi arian ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol, dywedodd pobl fy mod i'n wallgof a dylwn i aros tan y byddai fy nhriniaeth wedi'i gwblhau.

Doedd gen i ddim bwriad gwrando arnynt.

Dylwn wedi bod mwy hyderus

Roeddwn i wedi penderfynu wynebu her 3 Chopa’r Fenni: dringo’r Ysgyryd Fawr, Mynydd Pen-y-fâl, a’r Blorens i gyd mewn un diwrnod.

Gosodais darged codi arian i fy hun o £500, ac mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn yn cyrraedd unrhyw ffordd agos i hynny. Mae’n ymddangos efallai y dylwn wedi bod yn fwy hyderus! Rwyf wedi codi yn agos at £1,200. Mae'r gefnogaeth wedi bod yn syfrdanol.

Ar ddydd Mercher 30 Medi 2026, es i amdani gyda fy her.

Yr Ysgyryd Fawr ddaeth yn gyntaf, sef 486 metr o uchder. Dechreuais tua 10yb, a gorffen tua 12yp, mewn amser i gael diod braf a phryd o ginio yn nhafarn The Skirrid Inn.

Dringo ychydig yn haws

Yna daeth Mynydd Pen-y-fâl, sydd yn 596 metr o uchder. Roedd y dringo ychydig yn haws, ond cymerodd hwn ychydig fwy o amser i’w gwblhau, gan fod y llwybr ychydig yn hirach!

Unwaith y gorffennais Mynydd Pen-y-fâl, es i i’r Fenni am ginio hwyr. Yna daeth y Blorens, sef 561 metr o uchder, y rhwystr olaf.

Ailgychwynnais tua 4:30yp a gorffennais yr her – a’r tri chopa – tua 7:30yp. Cymerodd yr her tua naw awr i’w chwblhau, gan gynnwys diod gyflym ac egwyl ginio.

Mae’r gefnogaeth, a’r rhoddion y cefais, wedi bod yn wirioneddol anhygoel. Rwyf wedi dyblu fy nharged codi arian gwreiddiol, ac mae’r rhoddion yn dal i ddod i mewn.

Elusen ryfeddol

Mae Ymchwil Canser Cymru yn elusen ryfeddol, ac rwy'n annog unrhyw un sydd yn ystyried gwneud unrhyw fath o godi arian i'w chefnogi.

Unwaith eto, ni allaf ddigon ddiolch i bawb am y cymorth maen nhw wedi'i roi i mi, yn ariannol ac yn feddyliol. Ni chredais byth y byddwn i'n gallu gwneud hyn, ond fe wnes i, ac rwyf nawr yn edrych ymlaen at fwy o heriau codi arian.

Gyda'n gilydd, gallwn uno Cymru yn erbyn canser.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd