Cyflwyno Loteri Ymchwil Canser Cymru
Ffordd newydd o gefnogi ein gwaith
Ffordd newydd o gefnogi ein gwaith
Mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o gyhoeddi bod heddiw’n lansio ein loteri gyntaf erioed – Loteri Ymchwil Canser Cymru.
Mae chwarae ein loteri yn ffordd hwyliog a chyffrous o helpu Ymchwil Canser Cymru i sicrhau y gall rhagor o ymchwil canser hanfodol gael ei chynnal yng Nghymru, gan helpu i wella diagnosis, triniaeth a chanlyniadau i bobl y mae canser yn effeithio arnynt.
Sut mae’n gweithio
Ar gyfer pob ymgais £2 rydych chi’n ei chwarae, byddwn yn dyrannu rhif 6 digid unigryw i chi. Os bydd tri neu ragor o’ch rhifau yn cyfateb yn y drefn gywir, byddwch yn ennill un o’n gwobrau ariannol gwych rhwng £5 a £1,000. Os bydd y chwe rhif i gyd yn cyfateb, byddwch chi’n ennill £10,000 anhygoel!
Gallwch chwarae £2, £4 neu £6 yr wythnos am fwy o siawns o ennill. Cliciwch ar y botwm ‘Chwarae nawr’ i ymuno trwy Ddebyd Uniongyrchol a sicrhau na fyddwch byth yn colli raffl. Nid oes angen hawlio gan y byddwn yn ysgrifennu atoch os byddwch chi’n ennill ac yn talu unrhyw enillion yn syth i’ch cyfrif banc – hawdd!
Gwneud gwahaniaeth go iawn
“Mae’n bleser gennyf i gyhoeddi heddiw ein bod yn lansio Loteri Ymchwil Canser Cymru”, meddai Lisa Buckley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm yn Ymchwil Canser Cymru.
“Drwy ymuno â Loteri Ymchwil Canser Cymru, byddwch yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae pob £2 rydych chi’n ei chwarae yn helpu i sicrhau y gall rhagor o ymchwil canser hanfodol gael ei chynnal yng Nghymru, gan helpu i wella diagnosis, triniaeth a chanlyniadau i bobl y mae canser yn effeithio arnynt.
“Felly cofrestrwch heddiw ar gyfer y loteri a helpwch ni i uno Cymru yn erbyn canser trwy ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf yma yng Nghymru,” ychwanegodd Lisa.