Symud at y prif gynnwys

Crysau-t ‘Amdani’ Mari Grug

Rydym wedi cael ein syfrdanu gan ba mor boblogaidd yw’r crysau-t ‘Amdani’ mae Mari Grug wedi lansio iddym

Roeddem yn gwybod y byddent yn gwerthu’n dda, ond nid oeddwn yn disgwyl iddynt i gyd werthu mor gyflym – yn wir, mi werthom ni pob un ohonynt mewn llai na 48 awr ar ôl iddynt fynd ar werth nos Fercher diwethaf.

Y newyddion da yw y bydd yr arian a godir yn helpu i ariannu ein hymchwil canser sy’n achub bywydau ac yn dod â gobaith i bobl ledled Cymru a’u hanwyliaid sydd wedi’u heffeithio gan ganser.

Ac mae mwy o newyddion da - rydym wedi bod mewn cysylltiad gyda’n cyflenwyr ac rydym wedi gosod archeb gyda nhw heddiw am fwy o’r crysau-t ‘Amdani’ Mari Grug.

Dylent ein cyrraedd o fewn y pump i chwe wythnos nesaf mewn pryd ar gyfer y Nadolig, felly os nad ydych wedi gallu prynu crys-t eto, anfonwch e-bost at contact-us@cancerresearchwales a byddwn yn eich ychwanegu at ein rhestr aros.

Diolch am gefnogi Ymchwil Canser Cymru – gyda’n gilydd byddwn yn uno Cymru yn erbyn canser.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd