Symud at y prif gynnwys

Mari Grug yn lansio crysau-t codi arian i Ymchwil Canser Cymru

Cynllun arbennig ‘Amdani’ wedi ei ysbrydoli gan fywyd Mari

Mae’r enillydd BAFTA - y gyflwynwraig boblogaidd a llysgennad Ymchwil Canser Cymru - Mari Grug, wedi lansio crysau-t arbennig iawn fydd yn cael ei werthu i godi arian i’r elusen.

Fe’i datgelodd Mari ym mis Gorffennaf 2023 y bu’n cael triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig.

Yn Ionawr 2025, fe gyhoeddwyd fod Mari wedi ei h’enwi yn llysgennad ar gyfer Ymchwil Canser Cymru.

Ers hynny, mae wedi bod yn weithgar iawn ar ran yr elusen gyda gweithgareddau’n cynnwys arwain nosweithiau codi arian a chyngherddau ar ran Ymchwil Canser Cymru.

Yn ychwanegol, yn Ebrill 2025, cymerodd Mari ran yn y daith 50km She Ultra ym Mhen Llŷn gan godi £14,000 i’r elusen ymchwil canser Cymreig.

A nawr mae’r fam i dri o Fynachlog-Ddu yn Sir Benfro yn wreiddiol wedi troi ei llaw at gynllunio’r crysau-t gyda’i chyfaill o 26 mlynedd, yr artist Bethan Mai.

3,000 diagnosis yn flynyddol

“Rydym ni wedi dewis lansio’r crysau-t yn ystod mis Hydref gan ei bod yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron erbyn hyn a dyma’r math mwyaf cyffredin o ganser sydd yn effeithio ar fenywod yng Nghymru heddiw gyda bron i 3,000 yn cael diagnosis yn flynyddol” eglurodd Mari Grug.

“Fel llysgennad i Ymchwil Canser Cymru, a fel cyflwynydd teledu a radio, dwi’n benderfynnol o ddefnyddio’r platfform i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am yr angen am fwy o ymchwil yn y maes i ddarganfod canser y fron yn gynt ac er mwyn gwella a datblygu triniaethau effeithiol.

“Er mwyn codi arian i helpu galluogi hyn i ddigwydd, mi fydd Ymchwil Canser Cymru yn gwerthu'r crysau-t y cefais y pleser o’u cynllunio ar y cyd gyda Bethan Mai, a dwi wedi mwynhau’r broses greadigol honno yn fawr iawn” meddai Mari.

Ysbrydoliaeth Mari

Mae Mari a Bethan wedi bod yn gyfeillion ers 26 mlynedd.

Cyfarfu y ddwy eu gilydd tra roeddynt yn actio yn y gyfres Darn o Dir ar S4C, ac mae’r crysau-t wedi eu hysbrydoli gan fywyd Mari a’i siwrnai hefo canser.

“Thema'r crys-t ydi ‘Amdani’, sydd yn crisialu agwedd anhygoel Mari at y diagnosis o ganser, a tuag at fywyd yn gyffredinol. Wedi i mi ei hadnabod hi am 26 mlynedd, mae’n fraint anferthol i mi gael dylunio'r crysau-t yma gyda Mari, ar gyfer achos arbennig, a pherson anhygoel”, meddai Bethan.

Cariad a chryfder

Eglurodd Bethan fod y delweddau ar y crysau-t yn adlewyrchu gwahanol agweddau o fywyd Mari:

“Mae’r ddau ffigwr law-yn-llaw ar flaen y crysau-t wedi eu seilio ar Mari a’i merch – fel mam a merch, ond maent hefyd yn symbol o unrhywun sydd ar siwrnai gydag unrhywun. Maen nhw’n dawnsio a neidio yn yr haul yn dangos y cariad a’r cryfder wrth y bobl o’u cwmpas.

“Roedd y blodau yn teimlo yn bwysig – maen nhw yn ‘Mari’ iawn! Cafodd Mari'r fraint o fod yn forwyn y fro yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002 yn Nhŷ Ddewi, gan ddal llond lle o flodau. Mae’r blodau, fel y goeden sydd wedi ei chynnwys yn y llun, yn symbol o’n gallu i dyfu a goroesi er gwaethaf tywyllwch y pridd ac oerni’r gaeaf ac mae rhai o’r lluniau o’r blodau wedi dod o brints blodau roedd Mari yn gwisgo pan yn blentyn” meddai Bethan wrth hel atgofion.

Ymroddiad a gwaith caled a diddiwedd

Bydd yr arian o werthiant y crysau-t yn mynd at Ymchwil Canser Cymru – yr elusen ymchwil canser Cymreig annibynnol sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed yn 2026.

Ers ei sefydlu, mae’r elusen wedi buddsoddi £41.86 miliwn i wthio ffiniau ymchwil canser arloesol yma yng Nghymru.

“Gallai ddim diolch ddigon – eto, i Mari am ei hymroddiad, ei gwaith caled a diddiwedd i dynnu sylw at waith Ymchwil Canser Cymru a’r angen i godi arian am fwy o waith ymchwil i ganser er budd pawb yma yng Nghymru”, meddai Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru.

“Rydym yn lwcus iawn i’w chael hi fel llysgennad ac mae’r crysau-t newydd y mae Mari wedi eu cynllunio ar y cyd hefo Bethan Mai yn wirioneddol wych. Mae llawer o bobl dros y blynyddoedd wedi codi arian i ni mewn ffyrdd anhygoel iawn, ond dyma’r tro cyntaf erioed i ni gael crys-t wedi ei gynllunio gan un o’n llysgenhadon ar gyfer Ymchwil Canser Cymru”, fe’i hychwanegodd.

“Mae Mari yn unigolyn sydd yn ysbrydoli pawb ohonom yn Ymchwil Canser Cymru ac mae’n bleser cael gweithio gyda hi a’i chael yn gyfaill i’r elusen. Diolch i ti yn fawr iawn, iawn Mari am dy gyfraniad amhrisiadwy i’n gwaith.”

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd