Symud at y prif gynnwys

Merched y Wawr yn codi arian i Ymchwil Canser Cymru

£39,847.29 wedi ei gasglu mewn chwe mis gyda'r ymgyrch 'Positifrwydd Pinc'

Merched y Wawr yn codi bron i £40,000 i Ymchwil Canser Cymru

Mae aelodau Merched y Wawr ledled Cymru wedi codi'r swm anhygoel o £39,847.29 i Ymchwil Canser Cymru mewn chwe mis.

Ymchwil Canser Cymru yw elusen Prosiect Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, Bethan Picton-Davies, o 2025 tan 2027.

Cyhoeddodd Bethan ei dewis ym mhenwythnos preswyl blynyddol Merched y Wawr yng ngwesty'r Vale yn Hensol, yn mis Medi 2025.

Mae Bethan yn fodryb i'r ddarlledwraig Mari Grug, sydd hefyd yn llysgennad i Ymchwil Canser Cymru, ac sydd yn byw gyda chanser metastatig.

Yn y cyfarfod nodweddiadol hwnnw bu Bethan yn egluro i'r aelodau fod profiad Mari a'i chwaer Lisa, sydd wedi derbyn triniaeth am ganser, wedi dylanwadu ei dewis.

Ac ers hynny, mae aelodau o 276 Cangen Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr ledled Cymru ynghyd a'r rhanbarthau wedi bod yn cynllunio a mynd ati i godi arian.

Cefnogi gwaith hanfodol

Meddai Bethan Picton-Davies, llywydd cenedlaethol Merched y Wawr: "Fy ngweledigaeth yw codi nid yn unig arian, ond hefyd gobaith, gan gefnogi gwaith hanfodol Ymchwil Canser Cymru er mwyn creu dyfodol lle mae mwy o fywydau'n cael eu hachub ac mae llai o deuluoedd yn gorfod wynebu effaith dinistriol canser."

Bydd yr arian a gesglir gan Ferched y Wawr trwy Brosiect y Llywydd yn mynd tuag at waith ymchwil canser y fron ac iechyd menywod Ymchwil Canser Cymru.

Ac mae hynny wedi dylanwadu ar y thema 'Positifrwydd Pinc' sydd wedi ei ddewis ar gyfer y gweithgareddau codi arian y mae Merched y Wawr yn eu cynnal i Ymchwil Canser Cymru.

Ar ddydd Sadwrn Mai 16, daeth yr aelodau ynghyd ar gyfer Gŵyl Haf 2026 ym Machynlleth, lle y dadorchuddiwyd dwy ffrog binc y'i gwnaethpwyd o flodau a oedd wedi eu gwau a'u crosio gan aelodau.

Creuwyd y ffrogiau gan Rhian Jones a'i merch Mair o Aberystwyth gan winio dros 2,000 o flodau arnynt.

Roedd Blancedi Dinefwr hefyd wedi creu gwisg ar gyfer y digwyddiad mewn brethyn Penmachno.

Fe'i dangoswyd yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Ysgol Bro Hyddgen ac fe fydd Bethan Picton-Davies a Mari Grug yn cael cyfle i'w modelu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ac yna yn y cyngerdd 'Un Mewn Dau' yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

A diwedd mis Mai, mi fydd 40 o aelodau cangen Llanuwchllyn yn cynnal taith gerdded noddedig wrth wisgo wigiau pinc.

Caredigrwydd a chreadigrwydd

Meddai Tegwen Morris, cyfarwyddwraig genedlaethol Merched y Wawr: "Mae caredigrwydd a chreadigrwydd aelodau elusen Merched y Wawr bob amser yn destun balchder, a'r tro yma rydym yn eithriadol o ddiolchgar i bawb sy'n cymryd rhan yn y prosiect o wau a chrosio, o greu dros 40 medr o fyntin pinc i greu campweithiau creadigol a fydd yn cael eu harddangos yn y Sioe Fawr. A diolch i bawb sydd wedi gwerthu sgarffiau a gemwaith a chynnal pob math o ddigwyddiadau a gweithgareddau difyr a diddorol i godi'r arian hyd yma."

Yr elusen ymchwil canser Gymreig

Ymchwil Canser Cymru yw'r elusen ymchwil canser annibynnol Gymreig. Fe'i sefydlwyd yng Nghaerdydd yn 1966 ac yn 2026, mae'r elusen yn dathlu ei phenblwydd yn 60 oed.

Ers 1966, mae wedi buddsoddi £41.86 miliwn mewn gwaith ymchwil canser o safon fyd-eang yma yng Nghymru.

Meddai Adam Fletcher, prif weithredwr Ymchwil Canser Cymru: "Rwyf yn ddiolchgar iawn i Bethan ac i Merched y Wawr am eu cefnogaeth trwy Brosiect y Llywydd, 'Positifrwydd Pinc', a heb os, mae'n ddatblygiad nodweddiadol yn ein hanes ni, yr elusen ymchwil canser Gymreig.

"Gyda ninnau yn dathlu ein penblwydd yn 60 oed yn 2026 a Merched y Wawr yn dathlu eu penblwydd yn 60 yn 2027, rydym yn creu partneriaeth gref y bydd yn gweithio er lles pobl sydd yn byw hefo canser, eu teuluoedd a'u hanwyliaid ledled Cymru.

"Nod Ymchwil Canser Cymru ydi uno pobl Cymru yn erbyn canser trwy ariannu gwaith ymchwil canser o safon fyd-eang, ac yn sicr, gyda chefnogaeth Merched y Wawr, mi rydym ni sawl cam yn agosach at gyflawni hynny."

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd