Miss UK yn datgelu gwobr gyntaf ein Raffl Diemwnt Pen-blwydd 60
Cadwyn aur ysblennydd gyda diemwnt ynddi sydd wedi ei chyfrannu gan Clogau yw’r brif wobr mewn raffl codi arian arbennig i nodi pen-blwydd 60 elusen ymchwil canser Cymreig
Cadwyn aur ysblennydd gyda diemwnt ynddi sydd wedi ei chyfrannu gan Clogau yw'r brif wobr mewn raffl codi arian arbennig i nodi pen-blwydd 60 elusen ymchwil canser Cymreig.
Mae'r brand gemwaith nodedig wedi rhoi'r gadwyn i Ymchwil Canser Cymru ar gyfer ei Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 er mwyn codi arian ar gyfer prosiectau ymchwil, diagnosis a thrin canser ar draws y wlad.
Datgelwyd y wobr gan lysgennad Ymchwil Canser Cymru a Miss UK – Millie-Mae Adams yn siop y cwmni sydd wedi ennill gwobrau yng Nghaerdydd, lle y'i derbyniodd hi ar ran yr elusen.
Dywedodd Ben Roberts, Cyfarwyddwr Rheoli Clogau: “Rydym yn hynod falch o gefnogi Ymchwil Canser Cymru wrth iddynt ddathlu'r garreg filltir anhygoel hon o 60 mlynedd.
“Fel busnes Cymreig sydd â gwreiddiau dwfn yn ein cymunedau, rydym yn cydnabod yr effaith sydd gan ganser ar deuluoedd ledled y wlad a phwysigrwydd buddsoddi mewn ymchwil a all achub a gwella bywydau. Gobeithiwn y bydd y gadwyn aur Gymreig hardd hwn yn helpu i ddenu cefnogaeth sylweddol dros y raffl ac yn annog pobl i gefnogi gwaith pwysig yr elusen.”
Yn siaradwr Cymraeg balch ac yn feddyg mewn hyfforddiant, mae Millie-Mae hefyd wedi sefydlu Exeter Street Doctors – elusen sy'n dysgu sgiliau cymorth cyntaf achub bywyd i bobl ifanc.
Dywedodd hi: “Fel llysgennad balch Ymchwil Canser Cymru, mae'n fraint gennyf chwarae fy rhan ym mhen-blwydd 60 yr elusen a bod yma heddiw i ddatgelu'r wobr gyntaf yn Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 – cadwyn aur hardd â diemwnt ynddi, sydd wedi ei roddi'n hael gan Clogau.
“Y rhodd o fywyd ac amser i dreulio gyda'n hanwyliaid yw'r peth mwyaf gwerthfawr yn y byd, felly os gwelwch yn dda dangoswch eich cefnogaeth i waith pwysig Ymchwil Canser Cymru – sydd yn achub ac ymestyn bywydau heddiw trwy gymryd rhan yn y Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 ac efallai y byddwch yn ennill y gadwyn aur Clogau hynod hwn wrth helpu i ariannu ymchwil canser hanfodol yma yng Nghymru.”
Mae Millie-Mae yn hyrwyddo addysg iechyd trwy ei chyfres cyfryngau cymdeithasol 'Medic Millie Mondays' ac fe gyflwynodd y sesiwn Street Doctors cyntaf yn Gymraeg. Mae ei rôl gydag Ymchwil Canser Cymru yn cael ei ddylanwadu, yn rhannol, gan brofiad ei theulu ei hun o'r afiechyd.
Meddai Lisa Buckley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm Ymchwil Canser Cymru: “Rwy'n ddiolchgar iawn i Clogau a Millie-Mae Adams am ein cefnogi i lansio ein Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 – ein raffl gyntaf erioed, wrth i ni ddathlu 60 mlynedd fel yr elusen ymchwil canser annibynnol Cymreig a 60 mlynedd o arloesedd mewn diagnosis a thriniaeth canser.
“Ers 1966, rydym wedi buddsoddi £41.68 miliwn i wthio ffiniau darganfyddiadau ymchwil canser yma yng Nghymru ac ni allem wneud hynny heb garedigrwydd y cyhoedd Cymreig a'n cymuned fusnes gwych. Diolch am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd ac gyda'n gilydd byddwn yn uno Cymru yn erbyn canser.”
Wedi'i sefydlu yng Ngogledd Cymru, mae Clogau yn enwog yn rhyngwladol am emwaith sy'n cynnwys aur Cymreig prin – un o'r metelau gwerthfawr mwyaf unigryw yn y byd.
Mae treftadaeth y cwmni yn gysylltiedig yn agos â'r Teulu Brenhinol: mae aur Cymreig o gloddfa Dewi Sant Clogau wedi ymddangos mewn modrwyau priodasol brenhinol am fwy na chanrif, gan gynnwys y rhai i Frenhines Elizabeth II, Diana, Tywysoges Cymru, a Catherine, Tywysoges Cymru.
Am wybodaeth am gasgliadau aur Cymreig Clogau, ewch i Clogau © Welsh gold jewellery.
"Fel llysgennad balch Ymchwil Canser Cymru, mae'n fraint gennyf chwarae fy rhan ym mhen-blwydd 60 yr elusen a bod yma heddiw i ddatgelu'r wobr gyntaf yn Raffl Pen-blwydd Diemwnt 60 – cadwyn aur hardd â diemwnt ynddi, sydd wedi ei roddi'n hael gan Clogau."