Symud at y prif gynnwys

Dros 1,000 o gyfranogwyr yn ymuno ag astudiaeth i wella effeithlonrwydd sgrinio canser y coluddyn

Mae astudiaeth sy'n anelu at wella effeithlonrwydd sgrinio canser y coluddyn dros hanner ffordd tuag at ei nod o recriwtio 2,000 o gleifion yng Nghymru

Nod yr astudiaeth COLOSPECT yw edrych ar fanteision ychwanegu prawf gwaed syml i'r broses sgrinio bresennol. Hyd yn hyn, mae mwy na 1,200 o gleifion wedi cael eu recriwtio i'r astudiaeth sy'n cael ei noddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac a ariennir gan grant gan Ymchwil Canser Cymru.

Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil Canser Cymru: "Fel yr elusen ymchwil canser Gymreig, ac ariannwr hirdymor yr ymchwil hwn, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch iawn o weld prawf gwaed Raman ar gyfer canfod canser y coluddyn yn gynnar yn cyflawni ei addewid ar raddfa genedlaethol. Hoffem ddiolch i'r holl bobl sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth hyd yn hyn."

Mae goroeswyr canser y coluddyn wedi croesawu'r astudiaeth a'r cleifion sy'n cymryd rhan ynddi, gydag un dyn - Jeff Horton, aelod o gymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - yn ychwanegu: "Mae unrhyw brawf sy'n gwella canfod canser y coluddyn yn gynnar i'w groesawu. Os caiff ei ddal yn gynnar, yna mae canser y coluddyn yn welladwy i raddau helaeth.

"Mae astudiaethau fel hyn yn bwysig wrth helpu i ddod o hyd i ddiagnosteg a thriniaethau newydd ac mae cael aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan yn ynddynt yn hanfodol bwysig."

Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda bron i 2,400 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn. Mae canfod yn gynnar yn allweddol, gyda 90% o gleifion yn goroesi os caiff ei ddarganfod a'i drin yn gynnar. Fodd bynnag, mae gwasanaethau sgrinio o dan bwysau sylweddol, gyda nifer y bobl sy'n aros am golonosgopi yng Nghymru wedi mwy na dyblu ers 2020.

Mae pobl rhwng 50 a 75 oed yn cael cynnig pecynnau Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol (FIT) gartref i helpu i ganfod canser y coluddyn cyfnod cynnar. Yna gwahoddir cleifion sy'n dychwelyd prawf FIT positif am golonosgopi.

Mae COLOSPECT yn astudio cyflwyno prawf gwaed ychwanegol i'r llwybr sgrinio hwn. Mae'r prawf gwaed Raman yn brawf gwaed sensitif iawn sy'n gallu adnabod olion bysedd moleciwlaidd sy'n unigryw i ganser y coluddyn. Gallai hyn helpu i wella effeithlonrwydd sgrinio, gan alluogi clinigwyr i flaenoriaethu cleifion sydd angen eu colonosgopi yn gyflym, tra'n lleihau'r angen am colonosgopi diangen.

Y gobaith yw hefyd y bydd cynnig prawf gwaed syml, ochr yn ochr â phrawf ysgarthion, yn annog mwy o bobl i ddod ymlaen ar gyfer sgrinio, yn enwedig ymhlith poblogaethau sy'n fwy tebygol o ddatblygu canser y coluddyn, ond sydd â chyfraddau isel o ddefnydd o raglenni sgrinio.

Meddai'r Athro Dean Harris, llawfeddyg colorectol ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Gall cleifion sydd â phrawf FIT positif gael colonosgopi arferol o hyd, er enghraifft oherwydd gwaedu i'r coluddyn o achosion anfalaen eraill. Gellid osgoi'r colonosgopi hyn trwy brawf gwaed Raman negyddol, gan ryddhau adnoddau ar gyfer colonosgopi mwy amserol i fwy o bobl, gan ganiatáu canfod canser yn gyflymach.

"Disgwylir hefyd bod y prawf gwaed Raman yn fwy cywir na'r prawf FIT wrth ganfod polypau, y briwiau coluddyn cynhaleidiol sy'n achosi canser. Gallai ei ddefnydd felly ganfod cleifion â'r polypau mwy peryglus, er mwyn caniatáu iddynt gael eu tynnu wrth colonosgopi, gan arwain at atal canser.

"Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth COLOSPECT yn diffinio cywirdeb y prawf, gyda'r cam nesaf posibl yn astudiaethau pellach sy'n edrych ar ble mae'r prawf Raman wedi'i leoli orau yn ymarferol.

"Rydym yn falch iawn o fod wedi recriwtio dros hanner ein targed o 2,000 o gleifion ac yn gobeithio parhau i recriwtio i COLOSPECT dros y 12 mis nesaf. Trwy gymryd rhan yn yr astudiaeth mae cleifion o Gymru yn chwarae eu rhan wrth helpu i ddod o hyd i atebion a gwella triniaeth ar gyfer un o ganserau mwyaf cyffredin Cymru."

Amcangyfrifir y gellid osgoi rhwng 20-30% o golonosgopïau trwy ddefnyddio prawf gwaed Raman ar ôl canlyniad FIT positif, a fyddai'n arbed adnoddau sylweddol y

flwyddyn i'r GIG ac yn osgoi anghyfleustra ac amser i ffwrdd o'r gwaith i gyfranogwyr sgrinio.