- Newyddion a Diweddariadau
- Prosiect ymchwil canser y prostad cyntaf o’i fath yn y byd yn digwydd yng Nghaerdydd
Prosiect ymchwil canser y prostad cyntaf o’i fath yn y byd yn digwydd yng Nghaerdydd
Ymchwil Canser Cymru yn cyhoeddi ei buddsoddiad cyllid mwyaf erioed
Mae gwyddonwyr yng Nghymru yn gobeithio chwyldroi diagnosis a thriniaeth canser y prostad gan ddefnyddio technoleg MRI sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang sydd ar gael yng Nghaerdydd yn unig.
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru. Bob blwyddyn, gwneir diagnosis o 2,500 o achosion ac mae 600 o bobl yn marw. Bellach, mae prosiect sy'n defnyddio techneg arloesol newydd o'r enw MRI tryledu-ymlacio yn gobeithio dadansoddi tiwmorau'r prostad yn fwy dibynadwy.
Technoleg MRI sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang
Dywedodd Dr Paddy Slator o Brifysgol Caerdydd a fydd yn arwain yr ymchwil: "Nod ein prosiect – 'MRI Tryledu-Ymlacio Cyflym gyda Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Graddio Canser y Prostad ar Gryfder Graddiant Uchel Iawn', yw gwella canlyniadau i ddynion yng Nghymru sy'n cael diagnosis o ganser y prostad.
"Trwy ddatblygu dull delweddu anymwthiol yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) gan ddefnyddio technoleg MRI arloesol nad yw ar gael yn unman arall yn y byd, rydyn ni'n gobeithio asesu tiwmorau'n fwy diogel, yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy ar gyfer cleifion canser y prostad yng Nghymru."
Ychwanegodd Dr Slator: "Byddwn yn defnyddio dysgu peirianyddol i gyflymu'r broses sganio a dadansoddi delweddau'n fwy cywir, felly bydd y prosiect yn cryfhau arloesedd a arweinir gan Gymru ym maes delweddu canser ac yn sicrhau mai cleifion lleol yw'r cyntaf i elwa o'r dechnoleg ddiagnostig flaengar hon.
"Mae hyn yn bosibl dim ond oherwydd y £110,000 o gyllid a gawsom gan Ymchwil Canser Cymru. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r elusen am sylweddoli gwir botensial yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut gallai chwyldroi triniaeth a diagnosis canser y prostad."
20 prosiect ymchwil canser yng Nghymru yn cael cyllid
Mae ymchwil Dr Slator yn un o blith 20 o brosiectau ymchwil canser newydd yng Nghymru sy'n rhan o becyn cyllido £2.86 miliwn gan Ymchwil Canser Cymru — dyma fuddsoddiad cyllid mwyaf erioed elusen ymchwil canser annibynnol Cymru ers iddi gael ei sefydlu ym 1966.
Dywedodd Adam Fletcher – Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru: "Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod yn sbarduno arloesedd ym maes ymchwil canser yng Nghymru ers 1966, a bellach, wrth i ni ddathlu ein 60fed pen-blwydd, mae'n fraint i mi gyhoeddi ein pecyn cyllido mwyaf erioed sy'n cynnwys prosiect ymchwil sy'n torri tir newydd yn fyd-eang – datblygiad gwirioneddol arloesol ym maes ymchwil canser y prostad sy'n digwydd yng Nghaerdydd.
"Bydd y cyllid ar gyfer yr 20 o brosiectau rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw – y swm rhyfeddol o £2.86 miliwn, yn ein galluogi i barhau i wthio ffiniau darganfyddiadau ymchwil canser yma yng Nghymru a rhoi gobaith i bobl y mae canser yn effeithio arnynt ledled y wlad."
Galw digynsail am gyllid
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i Ymchwil Canser Cymru rybuddio'n hwyr y llynedd ei bod yn wynebu galw digynsail am gyllid gan ymchwilwyr canser yng Nghymru.
"Er gwaethaf newyddion da heddiw, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl Cymru yn ein cefnogi ni a'n gwaith," meddai Adam Fletcher. "Am gyn lleied ag £8, fe allwch chi ein helpu yn ein 60fed flwyddyn i barhau i ariannu'r ymchwilwyr, y clinigwyr a'r gweithwyr iechyd proffesiynol gorau, felly cefnogwch ni a chyfrannwch rodd i Ymchwil Canser Cymru heddiw a helpu i uno Cymru yn erbyn canser," ychwanegodd Adam Fletcher.
Pam mae tiwmorau’n lledaenu i organau penodol?
Yng Ngogledd Cymru, mae'r prosiect 'A yw cod Hox sy'n benodol i feinwe yn sail i organotropiaeth tiwmorau?' yn cael ei arwain gan Dr John Mulley ym Mhrifysgol Bangor. Mae'n ceisio gwella canlyniadau canser i gleifion trwy ymchwilio i'r rhesymau pam mae tiwmorau'n lledaenu i organau penodol – proses a elwir yn fetastasis, ac nid eraill.
CBydd y prosiect hwn, sydd wedi derbyn £40,000 o gyllid, yn galluogi clinigwyr i ragfynegi risg canser yn gynharach a datblygu triniaethau i atal neu gyfyngu ar ledaeniad canser.
Canserau gynaecolegol
Mae Dr Sioned Owen ym Mhrifysgol De Cymru yn arwain y prosiect 'Datblygu a gwerthuso analogau curcumin newydd ar gyfer trin canserau gynaecolegol'. Mae gan ganser gynaecolegol – gan gynnwys canser yr ofarïau, canser endometriaidd, canser serfigol, canser y fylfa, a chanser y wain, rai o'r cyfraddau goroesi gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r prosiect hwn yn ceisio gwella canlyniadau i fenywod yng Nghymru trwy ddatblygu opsiynau triniaeth newydd.
Mae'r prosiect yn cael dyfarniad £40,000 i gefnogi arloesedd a arweinir gan Gymru ym maes therapiwteg canser. Dyma'r tro cyntaf i Ymchwil Canser Cymru ariannu ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru.
Ymchwil tiwmorau'r ymennydd
Mae chwech o'r prosiectau sy'n cael eu cyhoeddi heddiw wedi cael cyfanswm o fwy na £700,000 o gyllid gan Fenter Ymchwil Tiwmorau'r Ymennydd (BATRI) Ymchwil Canser Cymru, a sefydlwyd yn 2024 i gadarnhau statws Cymru fel arweinydd byd-eang ym maes ymchwil tiwmorau'r ymennydd.
Bydd y prosiectau a ariennir ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd newydd o drin tiwmorau ffyrnig yr ymennydd a gwella ein dealltwriaeth o wendidau posibl y gellir manteisio arnynt yn therapiwtig.