Dangosa dy Streips y mis Medi hwn
Mae'n fis Medi a mae hynny'n golygu ei bod hi'n amser Dangosa dy Streips i gefnogi Ymchwil Canser Cymru
Rydym yn galw ar ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol ledled Cymru i gymryd rhan er mwyn cynnal y Dangosa dy Streips mwyaf a'r gorau erioed.
Diwrnod Ymchwil Canser y Byd
Wrth i ni ddathlu Diwrnod Ymchwil Canser y Byd ar 24 Medi, rydym yn galw ar bawb i wisgo eu hoff ddillad neu ategolion streipiog, codi ymwybyddiaeth a chynnal digwyddiad codi arian i gefnogi ymchwil canser hanfodol bwysig yng Nghymru.
Mae cymryd rhan yn syml! Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo streipiau, cymryd rhan a chodi arian mewn ffordd sy'n gweithio i chi.
P'un ai'n ddiwrnod heb wisg ysgol, gwerthu cacennau yn y swyddfa, bore coffi cymunedol neu her noddi gyda'ch clwb, mae pob gweithred codi arian yn helpu i wneud gwahaniaeth.
Pam streips?
A wyddoch chi bod logo Ymchwil Canser Cymru wedi'i ysbrydoli gan y gelau dilyniannu DNA y mae ymchwilwyr yn eu defnyddio i adnabod newidiadau genetig sy'n gysylltiedig â chanser?
Mae lliwiau ein brand hefyd wedi eu dylanwadu gan y llifynnau a ddefnyddir mewn gelau DNA mewn labordai, i helpu ymchwilwyr i ddehongli canlyniadau pwysig yn fwy eglur.
Dyma pam mae Dangosa dy Streips yn ffordd berffaith i chi ddangos eich cefnogaeth – mae streipiau yn rhan o'r wyddoniaeth, yr ymchwil a hunaniaeth Ymchwil Canser Cymru.