Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell ac Ymchwil Canser Cymru yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd i Gefnogi Gofal ac Ymchwil Rhagorol ar gyfer Tiwmorau’r Ymennydd yng Nghymru
- Mae Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell (TJBCM) yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth strategol newydd gydag Ymchwil Canser Cymru.
- Bydd y bartneriaeth yn rhoi llais penodol i gleifion Cymru ar Fwrdd Strategaeth TJBCM, sef corff cynnull y gymuned tiwmorau’r ymennydd yn y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn llywio mentrau ledled y Deyrnas Unedig ac yn elwa ohonynt
- Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y buddsoddiad mwyaf erioed gan Ymchwil Canser Cymru mewn ymchwil tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru ac ymdrechion parhaus i ddarparu triniaeth a gofal rhagorol ar gyfer tiwmorau’r ymennydd yn GIG Cymru

Mae TJBCM yn falch o gyhoeddi partneriaeth strategol newydd gydag Ymchwil Canser Cymru – yr elusen ymchwil canser Cymreig annibynnol. Bydd Ymchwil Canser Cymru yn ymuno â Bwrdd Strategaeth ar y Cyd yr Ymgyrch, ochr yn ochr ag elusennau allweddol y Deyrnas Unedig ar gyfer tiwmorau’r ymennydd, elusennau canser cenedlaethol, a sefydliadau allweddol y llywodraeth, gan roi llais penodol i gleifion yng Nghymru sydd â thiwmor yr ymennydd mewn mentrau strategol ledled y Deyrnas Unedig.
Ymchwil Canser Cymru yw’r unig elusen sy’n canolbwyntio ar ariannu ymchwil canser yng Nghymru ac mae wedi ymrwymo swm sylweddol o gyllid i diwmorau’r ymennydd yn ddiweddar trwy’r Fenter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd (BATRI). Trwy’r gwaith hwn, mae Ymchwil Canser Cymru yn buddsoddi hyd at £1 filiwn y flwyddyn mewn sefydlu Cymru fel arweinydd rhyngwladol ym maes ymchwil tiwmorau’r ymennydd, gan adeiladu ar y driniaeth, y gofal a’r ymchwil sydd eisoes yn rhagorol a ddarperir gan y GIG, prifysgolion a diwydiant ledled Cymru. Felly, daw’r cyhoeddiad hwn ar adeg allweddol i’r gymuned tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru.
Bydd partneriaeth ag Ymchwil Canser Cymru yn datblygu gwaith agos TJBCM gyda thimau yng Nghymru dros sawl blwyddyn. Mae timau clinigol ac ymchwilwyr yng Nghymru wedi gweithio’n agos gyda TJBCM ers 2018, gyda Chanolfannau Rhagoriaeth yng ngogledd a de Cymru a mwy na 50 o aelodau gweithredol o Academi Tessa Jowell. Mae TJBCM yn falch o fod yn gweithio gydag Ymchwil Canser Cymru i ymestyn y gwaith hwn, gan ddatblygu’r nod cyffredin o wella canlyniadau, cynyddu mynediad teg at driniaeth ragorol a chyflymu ymchwil yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae’r cyhoeddiad yn nodi’r llais penodol cyntaf i Gymru yn TJBCM. Gan gyd-fynd â nod strategol TJBCM o sicrhau tegwch rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig, mae’r bartneriaeth yn sicrhau llais penodol i gleifion, clinigwyr ac ymchwilwyr Cymru ar Fwrdd Strategaeth ar y Cyd TJBCM, gan hwyluso cydweithrediadau, a sicrhau bod mentrau ledled y Deyrnas Unedig yn fuddiol i Gymru a bod y rhagoriaeth yng Nghymru yn cael ei rhannu â gweddill y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Dr Nicky Huskens, Prif Swyddog Gweithredol TJBCM, “Rydym yn falch bod Ymchwil Canser Cymru yn ymuno â’n Bwrdd Strategaeth ar y Cyd. Rwy’n gyffrous i ychwanegu at brofiad helaeth tîm Ymchwil Canser Cymru i barhau i wella tegwch ac arloesedd ym maes ymchwil, triniaeth a gofal tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru, "Ar ôl lansio ein Menter Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o ddod yn bartner Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell. Fel yr elusen ymchwil canser Gymreig, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig bod canserau anodd eu trin, fel tiwmorau’r ymennydd, yn cael y buddsoddiad angenrheidiol mewn ymchwil a fydd yn sicrhau newid ystyrlon a gwelliant mewn canlyniadau cleifion.
“Bydd ein partneriaeth ag Ymgyrch Canser yr Ymennydd Tessa Jowell yn sicrhau bod cleifion, clinigwyr ac ymchwilwyr tiwmorau’r ymennydd yn cael llais, a’u bod yn cael eu cynrychioli ar lefel DU a rhyngwladol.
“Bydd y cydweithrediad cyffrous hwn yn helpu’r cymunedau niwro-oncoleg a thimorau’r ymennydd yng Nghymru i elwa o’r darganfyddiadau diweddaraf a gynigir gan ymchwil ac arloesedd a dod â thriniaethau newydd a gwell a dulliau gofal gwell yn agosach i gartref".
Dywedodd Miss Kathrin Whitehouse, Niwrolawfeddyg Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru: "Mae hwn yn gydweithrediad gwych rhwng Ymchwil Canser Cymru a Chenhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell. Mae Ymchwil Canser Cymru , drwy BATRI, yn gwella'r gallu i ymchwil yng Nghymru gyfrannu at wybodaeth fyd-eang am diwmorau'r ymennydd, a gobeithio darparu cyfleoedd i gleifion Cymru, a'r rhai ledled y byd, gael mynediad at driniaethau a gofal gwell. Felly, mae'n gwbl synhwyrol iddynt bartneru â TJBCM, gyda'r genhadaeth a'r angerdd cyffredin hon. Rwy'n gobeithio y bydd hyn hefyd yn ychwanegu llais Cymru ymhellach at drafodaethau cenedlaethol, o safbwynt ymchwil yn ogystal â Chanolfannau Rhagoriaeth Tessa Jowell De a Gorllewin Cymru ar yr ochr glinigol."
Dywedodd Dr James Powell, arweinydd Niwro-Oncoleg yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, "Mae'r bartneriaeth hon rhwng Ymchwil Canser Cymru a'r TJBCM yn newyddion gwych. Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r ddau sefydliad a bydd dod â'r ddau at ei gilydd yn y modd hwn, gan gydweithio â'r gwasanaeth tiwmor ymennydd clinigol yng Nghymru, yn rhoi ysgogiad a gwelliant pellach ar gyfer triniaeth ac ymchwil tiwmorau'r ymennydd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn darparu manteision sylweddol a pharhaus i gleifion â thiwmorau'r ymennydd yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod."