Symud at y prif gynnwys

Gwyddonydd canser blaenllaw yn derbyn cymrodoriaeth £500,000 Ymchwil Canser Cymru

Prosiect imiwnotherapi'n anelu at roi siawns gwell o wella i bawb

Mae gwyddonydd arloesol o Gaerdydd sy’n datblygu triniaethau sy’n defnyddio system imiwnedd y corff i drin canser, sef imiwnotherapi, wedi derbyn cymrodoriaeth gwerth £500,000.

Mae Dr Bruce MacLachlan yn rhan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ac mae wedi derbyn y cyllid pum mlynedd gan Ymchwil Canser Cymru i barhau â’i waith pwysig.

Trawsnewid sut rydym yn trin canser

Dros gyfnod ei gymrodoriaeth, bydd Dr MacLachlan yn ceisio defnyddio technoleg bwerus i weld, mewn manylder atomau unigol, yn union sut mae imiwnotherapi yn adnabod canser.

“Mae’r darganfyddiad y gall ein system imiwnedd adnabod a dinistrio canser wedi trawsnewid y ffordd rydym yn trin canser. Yn y degawd diwethaf, rydym wedi dechrau defnyddio’r system imiwnedd i’w gyfeirio tuag at arwyddion canser claf. Fodd bynnag, mae gennym dal ffordd i fynd er mwyn i’r therapïau pwerus hyn weithio i bob claf, ym mhob math o ganser,” meddai Dr MacLachlan.

Therapïau sy’n gweithio i bawb

Mae’r rhyngweithiad rhwng ein system imiwnedd a chanser yn gymhleth ac mae system imiwnedd pob person yn canfod canser yn wahanol oherwydd ein cyfansoddiad genetig etifeddol.

Mae’r amrywiaeth hon yn gwneud cynllunio imiwnotherapi yn fwy cymhleth gan fod angen triniaethau sy’n gweithio ar draws pob cefndir genetig ac ethnigrwydd, fel y mae Dr MacLachlan yn egluro:

“Drwy sicrhau y caiff gwahaniaethau genetig eu hystyried o’r dechrau, mae fy ymchwil yn ceisio gwneud i driniaethau o’r fath weithio i bawb. Trwy weithio ar y cyd gydag arbenigwyr eraill, fy nod yw symud darganfyddiadau’n nes at driniaethau a fydd yn rhoi gwell siawns i bob claf â chanser wella.

“Bydd fy ngwaith yn canolbwyntio ar gelloedd T (celloedd gwaed gwyn pwysig) ac yn edrych i’n system imiwnedd am atebion ar sut i gyfeirio celloedd T i ganfod a dileu canser. Os gallwn arsylwi’r rhyngweithiadau rhwng ein system imiwnedd a chanser yn y manylder hwn, gallwn gynllunio therapïau, fel brechlynnau canser, sy’n gweld heibio i wneuthuriad genetig ein system imiwnedd i weithio’n ehangach ar draws y boblogaeth Gymreig a byd-eang,” meddai Dr MacLachlan.

Ymchwil canser byd-eang

Mae cyllid Dr MacLachlan yn rhan o ymrwymiad Ymchwil Canser Cymru i feithrin a datblygu’r cenedlaethau nesaf o wyddonwyr a chreu amgylchedd ymchwil canser ffyniannus yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r elusen ymchwil canser Cymreig gynnal ei chynhadledd 60ain pen-blwydd yng Nghaerdydd i nodi ei phen-blwydd hanesyddol a’i chyfraniad i ymchwil canser byd-eang.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau canser yng Nghymru

“Mae’n fraint i gyhoeddi heddiw ein bod wedi gallu rhoi’r arian hwn i Dr MacLachlan ar gyfer ei ymchwil arloesol, sydd â’r potensial i newid dyfodol cleifion canser yfory ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau canser yma yng Nghymru,” meddai Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yr elusen Ymchwil Canser Cymru.

“Am 60 mlynedd, mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod yn ariannu’r ymchwilwyr gorau, clinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol i wthio ffiniau ymchwil canser yma yng Nghymru a hyd yma rydym wedi buddsoddi dros £41.86 miliwn i gyflawni hynny.

“Ar hyn o bryd mae gennym dros £8.85 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn 52 o brosiectau byw yn ymchwilio i ddiagnosis cynt a thriniaethau gwell a mwy caredig ar gyfer canser, gan gynnwys bron £3 miliwn mewn pedwar treial clinigol wedi’u cynnal yma yng Nghymru, ac mae’n bleser ychwanegu enw Dr MacLachlan at restr arloeswyr ymchwil canser yr ydym wedi eu hariannu ers 1966,” meddai Dr Lee Campbell.

Mae cynhadledd ymchwil pen-blwydd 60 Ymchwil Canser Cymru yn digwydd yng Nghlwb Criced Morgannwg yng Ngerddi Sophia, Caerdydd ar ddydd Gwener 23 Hydref am 9.00am.

Bydd Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal, yn cyflwyno’r araith allweddol ac Adam Fletcher, Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru, fydd yn agor y gynhadledd.

Y darlledwr teledu a radio a’r cyflwynydd poblogaidd, Sian Lloyd, fydd yn cadeirio’r digwyddiad.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.
£
Gwneud rhodd