Symud at y prif gynnwys

Unedig trwy fod yn Unigryw - mwy na salwch

Myfyrio, ail-ffocysu a chodi ymwybyddiaeth am ganser

Bob blwyddyn, ar 4 Chwefror, rydym yn dathlu Dydd Canser y Byd, menter a drefnwyd gan yr Undeb Rheoli Canser Rhyngwladol (UICC). Mae’n ddiwrnod pan mae'r byd yn dod ynghyd i fyfyrio, ail-ffocysu, a chodi ymwybyddiaeth am ganser, ac yn un sydd yn cynnig cyfle i gyfuno adnoddau i helpu addysgu'n well a rhannu'r gwahanol ffyrdd y gallwn atal canser a lleihau ei effaith ar bobl, cymunedau a gwledydd.

Gyda'r holl sylw'n canolbwyntio ar ganser am un diwrnod yn unig, mae Dydd Canser y Byd hefyd yn rhoi cyfle i annog llywodraethau, rhanddeiliaid allweddol eraill a ffurfwyr polisi i gymryd y camau angenrheidiol i wneud newidiadau cadarnhaol i gleifion canser ym mhobman.

Mae cleifion canser yn fwy nag ystadegyn 

Thema ymgyrch eleni yw Unedig trwy fod yn Unigryw, sy'n atgyfnerthu y ffaith bod cleifion canser yn fwy nag ystadegyn ac yn fwy na dim ond dot ar graff. 

Mae Unedig trwy fod yn Unigryw yn rhoi pobl yng nghanol y naratif hwn. Daw pob diagnosis canser gydag ansicrwydd, gan ei fod yn effeithio'n ddwys ar bobl a’u teuluoedd a’u hamgylchiadau mewn sawl ffordd - yn emosiynol, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ariannol, i enwi ond ychydig.

Mae stori bersonol tu ôl pob diagnosis canser - un sy'n gofyn am gydymdeimlad a thrugaredd er mwyn darparu'r gofal gorau a chyflawni'r canlyniad gorau.

Cymru wedi’i uniaethu yn erbyn canser drwy ymchwil o'r radd flaenaf

Ein gweledigaeth yw 'Cymru wedi’i uniaethu yn erbyn canser drwy ymchwil o'r radd flaenaf', ac mae Ymchwil Canser Cymru wedi deall ers amser maith yr angen am gyfranogiad gweithgar pob unigolyn a phob cymuned i ymgysylltu a dod at ei gilydd, er mwyn i ni allu newid y dyfodol i gleifion canser ledled y byd.

Gyda hyn daw'r addewid i ariannu'r ymchwil orau sydd â'r potensial mwyaf i helpu cleifion heddiw, yn ogystal â darganfod a datblygu meddyginiaethau canser newydd yfory. Yn ogystal â labordai, mae ein hymchwil yn digwydd mewn cymunedau ac mewn meddygfeydd meddygon teulu. 

Yn aml mae hyn yn cynnwys cleifion a'u teuluoedd, gan ganiatáu i'w lleisiau gael eu clywed, a deall eu hanghenion, yn ogystal â'r gweithwyr iechyd sy'n gofalu amdanynt, i sicrhau y gallwn ddod â newid effeithiol, trwy'r ymchwil rydym yn ei hariannu.

Annog pobl i drafod eu hanghenion a'u teimladau yn agored

Mae astudiaeth COMBaT yn un o’r prosiectau hynny sy’n ceisio, ochr yn ochr â chleifion sydd â thiwmorau’r ymennydd a’u teuluoedd, annog pobl i drafod eu hanghenion a’u teimladau yn agored tra maent ar y llwybr triniaeth, sydd yn aml yn hynod anodd a heriol. Trwy ofyn i bobl gyda thiwmorau’r ymennydd rannu sut maent yn teimlo mewn modd sensitif ac yn gyson, gobeithiwn leoli a datblygu gyda’n gilydd set o ganlyniadau craidd yn seiliedig ar y cleient i sicrhau bod anghenion pobl bob amser yn cael eu bodloni.

Bydd fframwaith o gwestiynau clinigol pwysig y gall cleifion â thiwmorau'r ymennydd eu gofyn a'u hateb yn rheolaidd yn caniatáu i glinigwyr lunio ymatebion triniaeth amserol lle a phryd bynnag y bo’n angenrheidiol. Mae cwestiynau o’r fath, pan eu gofynnir yn rheolaidd ac yn ddibynadwy, yn allweddol i gyflawni gofal cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y claf gan arwain at ganlyniadau iechyd gwell a phrofiadau gofal gwell i bawb. Hyd yma mae hyn wedi bod yn absennol, ond trwy weithio gyda chleifion, teuluoedd a’r gwyddonwyr yr ydym yn eu hariannu, gallwn newid hyn.

Gwella'r ffordd y mae canser yn cael ei ddiagnosio

Mae ein hastudiaeth gofal sylfaenol ThinkCancer! yn digwydd mewn meddygfeydd meddygon teulu ledled Cymru, a’r gogledd-orllewin a’r de-orllewin o Loegr, er mwyn ceisio gwella sut y caiff canser ei ddiagnosio yn ein cymunedau. 

Wrth weithio gyda chlinigwyr a staff anclinigol mewn meddygfeydd meddygon teulu, mae rhyngweithrediad wedi’i gynllunio a fydd yn cynyddu gwybodaeth am symptomau canser ar draws y sector gofal sylfaenol ac yn annog newid ymddygiad cadarnhaol mewn perthynas ag achosion lle mae amheuon fod canser yn bresennol. Un elfen ganolog o’r astudiaeth yw gwelliannau mewn gweithdrefnau rhwydweithio diogelwch er mwyn sicrhau na chaiff neb ei adael yn ôl.

Mae’r esiamplau uchod yn dangos sut rydym yn rhoi anghenion cleifion wrth wraidd ein gwaith a, fel y thema "Unedig trwy fod yn Unigryw", byddwn cyn pen ychydig wythnosau yn cyhoeddi prosiectau newydd sydd yn bwriadu i helpu pobl ag anghenion ychwanegol yn well. 

Wrth wneud hyn, gobeithiwn gau'r bwlch anghydraddoldeb canser, fel y bydd pobl bob lle’n cael mynediad i'r un lefel o ofal canser, waeth beth fo'u statws cymdeithasol, hil, anabledd neu ryw.

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain, felly pam na bartnerwch â ni ddydd Cancr y Byd hwn, naill ai drwy rannu eich stori, neu drwy gymryd rhan mewn un o’r nifer o ddigwyddiadau codi arian sydd gennym eleni, wrth i ni ddathlu 60 mlynedd o ddarparu ymchwil canser, triniaeth a gofal o safon fyd-eang yma yng Nghymru.

Darganfyddwch fwy am ein prosiectau ymchwil canser.

Ein Prosiectau