Cymru’n ‘colli allan ar filiynau o bunnoedd’ mewn rhoddion elusennol bob blwyddyn
Mae pobl Cymru yn rhoi miliynau o bunnoedd i elusennau yn eu hewyllysiau bob blwyddyn - ond mae elusennau Cymru yn colli allan
Bob blwyddyn, mae elusennau Cymreig yn derbyn tua £33 miliwn trwy roddion mewn ewyllysiau.
Serch hynny, yn seiliedig ar gyfran y boblogaeth, dylai Cymru allu disgwyl i’r swm fod yn agosach at £225 miliwn.* Mae hynny’n bron i £200 miliwn a allai fod yn mynd i elusennau Cymreig i gefnogi pobl a chymunedau Cymru.
I elusennau sy’n gweithio ym meysydd ymchwil canser, cefnogaeth gymunedol, gwasanaethau brys, diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, gallai’r math hwn o incwm hirdymor, heb gyfyngiadau, drawsnewid yr hyn sy’n bosibl. Nid yn unig nawr, ond am genedlaethau i ddod.
Sicrhau bod eich rhodd yn aros yng Nghymru
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn rhoi arian yn eu hewyllys i achosion maen nhw’n credu ynddyn nhw, sydd wedi eu cefnogi nhw, neu sydd wedi effeithio arnyn nhw. Ond efallai nad yw pobl bob amser yn cael eu hannog i ystyried a fydd eu rhodd elusennol o fudd i Gymru neu eu cymuned leol yn benodol, neu a fydd yn cael ei chyfeirio i rywle arall yn y DU.
Mae pedair elusen – Ymchwil Canser Cymru, Sefydliad Cymunedol Cymru, Sefydliad Pêl-droed Cymru ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru – wedi dod at ei gilydd i annog pobl i roi eu harian i elusennau Cymreig. Y nod yw helpu i sicrhau bod unrhyw rodd y maen nhw am iddi fynd i Gymru a chymunedau Cymru yn mynd i’r union le hwnnw.
O dan yr ymgyrch Eich Rhodd i Gymru, mae’r elusennau yn gwahodd pobl sy’n bwriadu gadael rhodd elusennol yn eu hewyllys i ystyried gwneud hynny ar gyfer elusen Gymreig.
Fel grŵp, maen nhw wedi lansio’r ymgyrch Yma am Byth | Here for Good, gan sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniad gwybodus wrth wneud rhodd elusennol yn eu hewyllys. Maen nhw hefyd yn gwahodd cyfreithwyr a chynghorwyr ariannol ledled Cymru i ymuno ag Yma am Byth | Here for Good, gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth i bobl yn ystod y broses o lunio ewyllys.
Cyfle sylweddol i Gymru
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru, ar ran y grŵp:
“Bob blwyddyn, mae miliynau o bunnoedd yn cael eu gadael i elusennau gan bobl yng Nghymru, ond dim ond tua £33 miliwn sy’n cael ei dderbyn ar hyn o bryd gan elusennau Cymreig drwy roddion mewn ewyllysiau.
“Mae hynny’n golygu bod cyfle sylweddol i fwy o roddion elusennol fod o fudd i bobl a chymunedau Cymru am genedlaethau i ddod.
“Gall rhodd mewn ewyllys gael effaith barhaol ar y gwaith y gall elusennau ei gyflawni, o gefnogi grwpiau cymunedol ac ymchwil i ganser, i ddarparu cyfleusterau pêl-droed a helpu i achub bywydau.
“Rydym yn gwybod ei bod hi’n gyfnod anodd, a bod llawer ohonom yn teimlo pwysau ariannol, ond os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych chi’n ystyried gadael rhodd elusennol yn eich ewyllys, rydym am eich annog i ystyried a allai elusen Gymreig elwa o’ch rhodd.”
Beth allwch chi ei wneud
- Os oes gennych ewyllys eisoes, gwiriwch fod eich arian yn mynd i’r lle rydych am iddo fynd.
- Os nad oes gennych ewyllys, trafodwch â’ch cyfreithiwr.
- Os ydych chi’n gynghorydd proffesiynol, gofynnwch i’ch cleientiaid a hoffen nhw i’w hewyllys fod o fudd i Gymru.
Dysgwch fwy am Yma am Byth | Here for Good.
Ynglŷn â’r elusennau
Ymchwil Canser Cymru
Sefydlwyd Ymchwil Canser Cymru ym 1966 ac mae wedi buddsoddi £41.86 miliwn mewn prosiectau ymchwil canser arloesol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae ganddi £8.85 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn 52 o brosiectau ymchwil cyfredol ledled y wlad, ac mae’n ariannu pedair treial clinigol arall gyda £3 miliwn. Dros y chwe blynedd diwethaf, mae 2,000 o gleifion o Gymru wedi cymryd rhan mewn treialon clinigol blaengar a ariennir gan yr elusen.
Sefydliad Pêl-droed Cymru
Sefydlwyd Sefydliad Pêl-droed Cymru yn 2022, ac mae wedi buddsoddi £28 miliwn mewn cyfleusterau newydd a gwell, diogel a chynhwysol – ar y cae ac oddi arno – ers hynny. Mae dros 50,000 o chwaraewyr wedi elwa o’r buddsoddiad, gyda £12 miliwn wedi’i fuddsoddi yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Crëwyd 46 o gaeau artiffisial newydd neu rai sydd wedi’u huwchraddio, yn ogystal ag 20 o gaeau glaswellt newydd a 61 o adeiladau clybiau ac ystafelloedd newid. Mae’r sefydliad wedi gwella mynediad at gyfleusterau i fenywod a merched o 56%.
Sefydliad Cymunedol Cymru
Sefydlwyd Sefydliad Cymunedol Cymru yn 1999 ac ers hynny mae wedi creu dros 145 o gronfeydd elusennol, gyda dros 60 ohonynt yn weithredol heddiw. Ei nod yw cryfhau cymunedau lleol drwy ddarparu ffynhonnell barhaol o gyllid ar gyfer prosiectau cymunedol ledled Cymru. Mae’n ariannu grwpiau lleol ar lawr gwlad ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol, gyda dros £50 miliwn wedi’i fuddsoddi yng nghymunedau Cymru.
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru
Lansiwyd Elusen Ambiwlans Awyr Cymru fel gwasanaeth yn 2001 ac mae wedi cymryd rhan mewn dros 58,000 o ddigwyddiadau ers hynny. Mae’n gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ac yn cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan roddion. Mae ganddi hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym mewn pedair canolfan awyr ledled Cymru, gyda chriwiau’n dod â’r ysbyty at y claf i gyflawni gweithdrefnau meddygol sy’n achub bywydau, megis trallwysiadau gwaed, tawelu ac anesthetig, a hynny yn uniongyrchol yn y fan a’r lle.
*Yn ôl yr UK Civil Society Almanac diweddaraf gan Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, mae Cymru yn derbyn tua £33 miliwn mewn rhoddion ewyllys bob blwyddyn. O’i gymharu â chyfran y boblogaeth, gallai ddisgwyl derbyn £225 miliwn.