Beth nesaf ar gyfer canfod canser yn gynnar?
Myfyrdodau o Gynhadledd Canfod Canser yn Gynnar, gan Dr Rachel Lawrence
Mae canser yn aml yn broses raddol
Agorodd y gynhadledd gyda darlith allweddol gan yr Athro Sam Janes (Coleg Prifysgol Llundain), a drafododd ganfod canser ysgyfaint yn gynnar. Nod ei ymchwil yw deall pam mae cyfraddau adenocarcinoma ysgyfaint, y math mwyaf cyffredin o ganser ysgyfaint, yn parhau i godi tra bod cyfraddau carcinoma cell squamous yn gostwng.
Un canfyddiad diddorol oedd bod rhai celloedd ysgyfaint sydd wedi’u niweidio gan ysmygu yn gallu adfer ar ôl rhoi’r gorau i ysmygu. Dangosodd yr ymchwil y gallai celloedd squamous fynd yn ôl i gyfnod iachach unwaith y bydd rhywun yn rhoi’r gorau i ysmygu, tra bod celloedd basal yn ymddangos yn llai galluog i wneud hynny. Efallai mai hyn sy’n gyfrifol am gynnydd cyfran o’r math adenocarcinoma o ganser.
Pwysleisiodd yr Athro Janes hefyd, hyd yn oed mewn pobl na fu erioed wedi ysmygu, bod celloedd ysgyfaint yn cynhyrchu cyfartaledd o tua 22 newid genetig y flwyddyn! Mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau hyn yn ddiniwed, ond mi allant gyfrannu at ddatblygiad canser.
Roedd y data a gyflwynwyd yn cadarnhau sut mae canser yn aml yn broses raddol sy’n dechrau blynyddoedd lawer cyn y diagnosis. Gall deall y newidiadau cynnar hyn helpu ymchwilwyr i adnabod cyfleoedd i ymyrryd yn llawer cynt cyn i symptomau ymddangos.
Triongl euraidd ar gyfer treialon clinigol
Yn ystod sesiwn banel y prynhawn ar anghydraddoldebau mewn canfod canser yn gynnar, dywedodd y cynrychiolydd cleifion Dave Kelsall rywbeth trawiadol iawn. Tynnodd sylw at y ffaith bod cleifion sy’n byw o fewn cylchffordd yr M25 yn aml yn fwy tebygol o gael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn treialon clinigol. Gall heriau fodoli yng Nghymru hefyd, lle gall daearyddiaeth greu rhwystrau ychwanegol i gymryd rhan mewn ymchwil. Enghraifft o hyn yw cleifion â thiwmorau’r ymennydd yng Ngogledd Cymru sy’n gorfod teithio i Gaerdydd i gymryd rhan mewn treialon clinigol.
Mae sylwadau Mr Kelsall wedi gwneud i mi feddwl am y rôl y gallwn ni, fel arianwyr ymchwil, ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn. Mae canolfannau ymchwil dwys fel Llundain, Caergrawnt a Rhydychen yn meddu ar seilwaith sefydledig a hanes cryf sy’n denu buddsoddiad sylweddol yn naturiol. Er enghraifft, cafodd sefydliadau o fewn yr hyn a elwir yn ‘triongl euraidd’ Llundain, Caergrawnt a Rhydychen arian llawer uwch yn sylweddol o gymharu ag ardaloedd eraill ar gyfer treialon clinigol yn 2025/26 gan gyrff ariannu ledled y DU. Tra bod y canolfannau hyn yn helpu i yrru cynnydd gwyddonol, fel cymuned ymchwil, mae’n rhaid inni hefyd ystyried sut i sicrhau bod manteision ymchwil ar gael i’r holl gleifion, waeth ble maen nhw’n byw.
Dydy hyn ddim yn gwestiwn o degwch yn unig, ond hefyd o ran ansawdd gwyddonol. Os nad yw’r cleifion sy’n cymryd rhan mewn treialon clinigol yn adlewyrchu amrywiaeth ehangach ein poblogaeth, mae’n dod yn fwy anodd deall sut fydd diagnostegau, triniaethau neu ymyriadau newydd yn perfformio mewn sefyllfaoedd go iawn. Felly, mae gwella mynediad at gyfleoedd ymchwil ar draws gwahanol ranbarthau a chymunedau yn hanfodol os ydym am ddatblygu arloeseddau sy’n elwa pawb sydd wedi effeithio gan ganser.
Ewrop yn gyfrifol am 20% o achosion canser y byd
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda sesiwn drawiadol iawn ar dueddiadau newydd mewn risg canser. Tynnodd yr Athro Freddie Bray o Asiantaeth Ryngwladol Ymchwil Canser (IARC) sylw at faich cynyddol o ganser yn y byd, gan nodi er bod Ewrop yn gartref i ddim ond 9% o boblogaeth y byd, mae’n gyfrifol am fwy na 20% o’r holl achosion canser yn y byd!
Uchafbwynt y diwrnod i mi oedd cyflwyniad gan Dr Karl Smith Byrne, a gynigodd safbwynt unigryw fel ymchwilydd canser ym Mhrifysgol Rhydychen ac fel goroeswr canser y coluddyn cam IV cynnar. Rhannodd Dr Smith Byrne ei ymchwil ar broteinau sy’n cylchredeg yn y gwaed a sut y gellid eu defnyddio i wella canfod cynnar canser y brostad. Daeth ei brofiad personol â dimensiwn ychwanegol i’r cyflwyniad, gan ein hatgoffa mewn ffordd bwerus o effaith ymchwil canser yn y byd go iawn.
Risg canser yn yr amgylchedd
Cafwyd cyflwyniad diddorol yn y prynhawn gan yr Athro Cyswllt Trang VoPham o Ganolfan Canser Fred Hutchinson yn Seattle, sy’n ymchwilio i’r berthynas rhwng ein hamgylchedd a risg canser. Fel arbenigwraig mewn gwyddoniaeth geo-ofodol, mae’r Athro VoPham wedi ymchwilio i sut y gall ffactorau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, gan gynnwys tanau gwyllt sy’n digwydd yn fwy aml yn yr Unol Daleithiau, gyfrannu at gynnydd mewn achosion canser.
Mae ei gwaith yn archwilio ystod o ffactorau risg posibl eraill hefyd, gan gynnwys dod i gysylltiad â phlaleiddiaid a chanser y coluddyn, yr hyn a elwir yn ‘gemegau am byth’, bwydydd wedi eu prosesu, ac yn ddiweddar, effaith jet lag heulol ar risg canser yr iau.
Cywirdeb canfod o 98%
Daeth cyflwyniad mwyaf nodedig y diwrnod olaf gan y peiriannydd biofeddygol Dr Daniel Heller o Ganolfan Canser Er Cof am Sloan Kettering. Mae tîm Dr Heller wedi datblygu nanosynhwyryddion arloesol sydd â’r gallu i ganfod proteinau a moleciwlau bach eraill mewn samplau plasma gwaed. Mae’r data a gynhyrchir gan y nanosynhwyryddion hyn yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio dysgu peirianyddol i greu ‘ôl bysedd’ moleciwlaidd unigryw.
Hyd yma, cafodd y dull hwn ei brofi ar fwy na 600 o samplau gan bobl iach a chleifion â chanser ymennydd. Yn rhyfeddol, llwyddodd y prawf i ganfod presenoldeb canser ymennydd gyda chywirdeb o 98%, er bod gwahaniaethu rhwng mathau gwahanol o diwmorau’r ymennydd yn fwy heriol. Er y bydd angen dilysiad pellach cyn y gall profion fel hyn symud i ddefnydd clinigol rheolaidd, mae’r dechnoleg yn rhoi cipolwg cyffrous ar sut allai dyfodol canfod canser edrych.
Roedd yn ddiddorol iawn hefyd darganfod bod y signalau moleciwlaidd sy’n sylfaen i ôl bysedd canser ymennydd yn ymestyn y tu hwnt i’r rhai a wyddom amdanynt eisoes sydd yn gysylltiedig â’r clefyd. Mi wnaeth y nanosynhwyryddion hefyd adnabod moleciwlau a oedd yn rhan o brosesau fel ymateb i straen, gweithgaredd imiwnedd ac ailadeiladu’r matrics allgellog, sef y rhwydwaith o broteinau a moleciwlau eraill sy’n amgylchynu celloedd. Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod y prawf yn adnabod newidiadau sy’n digwydd ar draws ecosystem tiwmor ehangach, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar y celloedd canser eu hunain. Gallai’r golwg ehangach hwn gynnig cyfleoedd newydd gwerthfawr i ganfod canser yn gynnar.
Ymrwymiad i wella canlyniadau cleifion
Er ystod eang y pynciau a drafodwyd yn y gynhadledd, cododd thema gyffredin: mae’n debygol y bydd dyfodol canfod canser cynnar yn dibynnu ar uno sawl disgyblaeth. Mae gan glinigwyr, gwyddonwyr labordy, peirianwyr, gwyddonwyr data a chleifion i gyd rôl bwysig i’w chwarae wrth ddatblygu offer diagnosis sydd yn wyddonol gadarn a hefyd yn hygyrch i’r bobl sydd eu hangen fwyaf.
Roedd mynychu’r gynhadledd i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn canfod cynnar canser ac i gysylltu ag ymchwilwyr o bob rhan o’r byd sydd ag ymrwymiad i wella canlyniadau cleifion yn gyfle gwerthfawr. Wrth adael Caeredin, roedd gennyf lawer o syniadau a mewnwelediadau newydd i ddod yn ôl i Ymchwil Canser Cymru gyda mi. Gobeithiaf y byddwn yn y blynyddoedd i ddod yn gweld mwy o ymchwilwyr Cymreig yn rhannu eu gwaith ac yn cyfrannu at y trafodaethau hyn ar lwyfan rhyngwladol.