Ymchwil Canser Cymru yn BACR 2025
Ym mis Mehefin, mynychodd Dr Peter Henley, Rheolwr Cyllid Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru, gyfarfod pen-blwydd Cymdeithas Ymchwil Canser Prydain (BACR) yn 65 oed. Yma, mae’n ysgrifennu am ei brofiad

Sefydlwyd BACR ym 1960 ac mae’n gweithredu er mwyn dwyn ymchwilwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig (DU) ynghyd a’u cefnogi. Yn allweddol i hyn y mae trefnu cynadleddau a chyfarfodydd lle gellir rhannu syniadau, gall cydweithrediadau newydd gael eu meithrin a lle gellir penderfynu ar flaenoriaethau.
Cynhaliwyd y cyfarfod yng Ngholeg Brenhinol y Ffisegwyr yng Nghaeredin, a daeth â rhai o’r ymchwilwyr canser disgleiriaf oll ynghyd o bob cwr o’r DU.
Gwyddoniaeth arloesol
Dros dridiau o gyflwyniadau ac arddangosfeydd, gwelwyd lefel enfawr o wyddoniaeth arloesol dros y 5 prif sesiwn, yn cwmpasu: geneteg canser; micro-amgylchedd y tiwmor, imiwnoleg canser; proffilio a modelu tiwmorau; a strategaethau trin newydd. Fel y dangosodd y sesiynau hyn, roedd amrywiaeth wirioneddol o ymchwil yn cael ei chyflwyno, ond daeth themâu allweddol penodol i’r amlwg yng nghyflwyniadau nifer o’r siaradwyr.
Micro-amgylchedd y tiwmor
Un o’r themâu hyn oedd defnyddio systemau modelu fwyfwy realistig ar gyfer astudio canser. Yn draddodiadol, gwnaed ymchwil i ganser gan ddefnyddio celloedd canser sy’n cael eu tyfu ar eu pen eu hunain yn y labordy, ond nid yw hyn yn adlewyrchu’r darlun go iawn ymhlith cleifion. Mewn gwirionedd, mae tiwmorau’n bodoli mewn cymysgedd cymhleth o amrywiol fathau o gelloedd a phroteinau, sef micro-amgylchedd y tiwmor (TME), sy’n helpu i lywio ymddygiad y celloedd canser ac sy’n effeithio ar ymatebion i driniaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwilwyr fwyfwy wedi defnyddio systemau modelu mwy cymhleth, fel organoidau, sy’n 3-dimensiwn ac yn ymgorffori elfennau o’r TME, i adlewyrchu bywyd go iawn yn well. O’r cyflwyniadau, roedd hi’n eglur cymaint mae’r systemau modelu newyddach hyn wedi datblygu a chymaint yn fwy cywir yw’r canlyniadau maent yn eu cynhyrchu.
Yn anad dim, mae cipolygon newydd i’r TME yn parhau i ddod i’r amlwg sy’n gallu helpu i lywio systemau modelu gwell fyth ar gyfer ymchwil. Er enghraifft, amlygodd un anerchiad amlygu rôl nerfau, sef elfen o’r TME sy’n cael ei hesgeuluso yn aml – yng nghanser yr ysgyfaint, mae presenoldeb nerfau wedi’u hactifadu yn cynyddu twf tiwmorau ac yn ffrwyno’r system imiwnedd, felly mae hyn yn ystyriaeth bwysig yn y labordy.
Cyfyngiadau wrth adlewyrchu amrywiaeth cleifion go iawn
Pwysleisiodd anerchiad hynod ddifyr arall gyfyngiadau modelau ymchwil presennol wrth adlewyrchu amrywiaeth cleifion go iawn. Canfu’r gwaith, a oedd yn canolbwyntio ar ganser y fron, wahaniaethau sylweddol yn y TME rhwng menywod o ethnigrwydd gwyn a menywod o ethnigrwydd du, yn enwedig yn ymateb y system imiwnedd i’r canser. Mae’n amlwg y bydd gwahaniaethau tebyg yn bodoli mewn amrywiaeth o fathau o ganser, felly mae angen cynnwys ymwybyddiaeth o hyn wrth ddylunio ymchwil yn y dyfodol.
Thema allweddol arall oedd cydnabod a manteisio ar wendidau penodol mewn celloedd canser fel opsiynau triniaeth newydd. A hwythau wedi’u hwyluso gan ein gallu i archwilio geneteg canser yn fanylach nag erioed o’r blaen, mae cysyniadau newydd ar gyfer therapïau targedig wedi cael eu darganfod.
Angeuoldeb synthetig
Un o’r cysyniadau hyn yw ‘angeuoldeb synthetig’. Mae llawer o broteinau mewn celloedd iach yn ddiangen, gan olygu bod protein arall yn gallu cyflawni eu swyddogaeth os bydd y protein gwreiddiol ar goll. Fodd bynnag, mae celloedd canser yn aml yn dibynnu ar un protein oherwydd bod ei bartner diangen wedi cael ei golli oherwydd mwtaniadau – os gallwn ddefnyddio cyffur i rwystro’r protein sy’n weddill, bydd y gell ganser yn marw ac ni fydd effaith ar y celloedd iach. Gall ‘angeuoldeb synthetig’ hyd yn oed gael ei greu â llaw, gan ddefnyddio dau gyffur sy’n gweithio gyda’i gilydd.
Rhwystro signalau i ganserau
Cysyniad newydd a gyflwynwyd i ni oedd ‘goractifadu signalu oncogenig’. Mae canserau’n dibynnu ar signalau y tu mewn a’r tu allan i’w celloedd i oroesi a thyfu ac mae llawer o driniaethau modern yn ceisio rhwystro’r signalau hyn. Fel opsiwn arall, cyflwynodd yr Athro René Bernards ei waith sy’n mabwysiadu dull i’r gwrthwyneb – defnyddio cyffuriau i wella signalau canser. Er y byddech yn tybio bod hyn yn groes i bob greddf, mae’r dull hwn yn achosi straen enfawr i gelloedd canser sy’n gallu eu lladd yn llwyr neu eu gwneud yn fregus yn wyneb triniaethau safonol eraill – hynny yw, gormod o ddim nid yw’n dda!
O safbwynt Cymreig, cyflwynodd yr Athro Alan Parker, ymchwilydd Ymchwil Canser Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, anerchiad gwych ar waith ei grŵp yn peiriannu feirysau i ymosod ar ganser. Roedd hi’n anhygoel clywed bod y treial clinigol cyntaf o’r dull trin arloesol hwn yn mynd rhagddo ac yn recriwtio cleifion gyda 6 gwahanol fath o ganser.
Datblygiadau mewn ymchwil canser
Roedd cyfarfod penblwydd Cymdeithas Ymchwil Canser Prydain yn 65 oed wir wedi amlygu cymaint mae ymchwil canser wedi gwella a faint o gyfleoedd sydd o hyd i wneud mwy fyth o welliannau. Mae mwy o bobl yn goroesi eu canser heddiw nag erioed o’r blaen, ond gallwn gyflawni deilliannau gwell i gleifion o hyd.
Mae cymaint o lwybrau’n destun ymchwil i ddarganfod triniaethau mwy effeithiol ac, yn holl bwysig, mwy targedig gyda llai o sgil-effeithiau, fel bod y dyfodol yn edrych yn bositif i gleifion canser dros y degawdau nesaf. Bydd manteisio ar yr arloesiadau sy’n cael eu cynhyrchu gan ymchwil a’u mabwysiadu mewn ymarfer yn gyflym ac yn deg yn hanfodol i gyflawni’r addewid hon.
Yn Ymchwil Canser Cymru, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw cleifion Cymreig yn cael eu gadael ar ôl.