Symud at y prif gynnwys

Ymchwil canser yng Nghymru'n dioddef diffyg ariannu, medd Ymchwil Canser Cymru

Galw cynyddol am gyllid ymchwil canser yn gwthio'r diffyg i £4.1m yn 2025

Mae Cymru yn colli allan ar gyfleoedd i achub ac ymestyn bywydau pobl oherwydd prinder cyllid ar gyfer ymchwil canser.

Dyna'r rhybudd heddiw gan Ymchwil Canser Cymru sy'n dweud bod y galw y’i derbyniodd am grantiau ymchwil canser gan wyddonwyr yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf yn fwy na’i gyllideb. Mae'r elusen wedi bod yn un o brif arianwyr elusennol ymchwil canser yng Nghymru ers ei sefydlu yn 1966.

Trafferth ateb y galw

Ond yn ddiweddar, mae wedi cael trafferth ateb y galw sydd arno am gyllid gan wyddonwyr canser.

Rhwng 2021 a 2024, cafodd yr elusen geisiadau am £6.6 miliwn mewn cyllid ymchwil canser, ond dim ond £3.6 miliwn mewn grantiau y gallai ei ddarparu.

Golyga’r diffyg o £3 miliwn dros bedair blynedd mai, ar gyfartaledd, dim ond ychydig dros hanner y prosiectau oedd yn gwneud cais am arian dderbyniodd gyllid.

Argyfwng ariannu

Ond Ymchwil Canser Cymru yn rhybuddio bod y sefyllfa’n cyrraedd y pwynt o fod yn argyfwng, a fod y diffyg yn 2025 yn £4.1 miliwn – sydd yn fwy nag chyfanswm y pedair blynedd flaenorol.

Dywedodd Adam Fletcher, Prif Weithredwr Ymchwil Canser Cymru:

“Mae canser yn effeithio ar fwy ohonom na erioed gyda’r disgwyl y bydd 24,000 o achosion yn cael eu diagnosio yng Nghymru yn 2035 o’i gymharu â 21,600 yn 2025, felly mae’r angen am ymchwil i ddiagnosis cyflymach a darparu triniaethau gwell ar gyfer y clefyd creulon hwn sydd yn effeithio pawb o bob oedran a chefndir, yn fwy nag erioed.

“Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod ar flaen y gad wrth ariannu ymchwil canser o'r radd flaenaf yng Nghymru ers 1966, ac rydym yn dibynnu ar ewyllys da a charedigrwydd pobl Cymru i wneud hyn, ond rydym yn wynebu argyfwng ariannu ac angen mwy o gefnogaeth i barhau gyda'n gwaith pwysig.”

Cefnogaeth y cyhoedd

"Yn anffodus, ni allwn ateb y galw presennol sydd arnom i ddarparu cyllid ymchwil i ymchwilwyr canser ledled Cymru, felly mae'r angen am gefnogaeth y cyhoedd i ni a'n gwaith, hefyd yn fwy nag erioed" ychwanegodd Adam Fletcher.

"Mae Ymchwil Canser Cymru yn credu ei bod yn bwysig cyllido cymaint o ymchwil canser o ansawdd â phosibl yng Nghymru, er mwyn gwella canlyniadau canser i’r genedl. Am £8, gallwch chi ein helpu ni i barhau i ariannu’r ymchwilwyr, clinigwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd gorau er mwyn parhau i wthio ffiniau darganfyddiadau ymchwil canser yma yng Nghymru, felly, os y gwelwch yn dda, cefnogwch ni trwy roi rhodd i Ymchwil Cancer Cymru heddiw.”