Symud at y prif gynnwys

Galw Agored 2026

Mae Ymchwil Canser Cymru yn falch o wahodd ceisiadau am brosiectau ymchwil newydd.

Dyddiad dechrau

1 Mai 2026

Statws

Agored

Mae gan Ymchwil Canser Cymru hanes balch o gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser drwy ariannu ysgoloriaethau PhD, yn ogystal â galluogi ymchwilwyr ifanc i adeiladu eu gyrfaoedd drwy grantiau am brosiectau.

Felly, rydym yn falch o wahodd cynigion ar gyfer prosiectau newydd, gan gynnwys lleoliadau myfyrwyr PhD, grantiau prosiect a grantiau Arloesi.

Dylai'r cynnig gyd-fynd â'n Strategaeth Ymchwil sy'n cynnwys pedair thema eang:

  • Darganfod ac Ymchwil Drosiadol
  • Sgrinio, Atal a Diagnosis Cynnar
  • Gwell triniaethau
  • Ymchwil Systemau Iechyd a Chanlyniadau

Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich cynnig yn addas, cysylltwch â'n Pennaeth Ymchwil, Dr Lee Campbell, drwy e-bost: lee.campbell@cancerresearchwales.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am alwadau grant Ymchwil Canser Cymru, gan gynnwys ein Cod Ymddygiad Ymchwil, gweler ein tudalen Gwybodaeth i Ymgeiswyr.

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod a dychwelwch y ffurflen wedi'i chwblhau at: grants@cancerresearchwales.org.uk

Key Dates

Dyddiad Cau Mynegi Diddordeb

8 Mehefin 2026

Gwahoddiad i Gyflwyno Cais Llawn

26 Mehefin 2026

Dyddiad Cau am Geisiadau

28 Medi

Mae Ymchwil Canser Cymru yn cadw'r hawl i ddiwygio'r dyddiadau hyn lle bo'n angenrheidiol.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd