MRI Tryledu-Ymlacio Cyflym gydag AI ar gyfer Graddio Canser y Prostad ar Gryfder Graddiant Uchel Iawn
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Darganfod
Math o ganser
Y brostad
Nod y prosiect hwn yw gwella canlyniadau i ddynion yng Nghymru sy’n cael diagnosis o ganser y prostad, sef y canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru, gyda dros 2,500 o achosion newydd a 600 o farwolaethau bob blwyddyn. Mae graddio tiwmorau’n gywir yn hanfodol ar gyfer penderfynu ar driniaeth, ond mae dulliau presennol yn dibynnu ar fiopsïau nodwydd ymwthiol, sy’n gallu bod yn boenus, sydd â risgiau, ac sydd weithiau’n methu canfod clefyd ymosodol. Bydd datblygu dull delweddu anymwthiol gan ddefnyddio technoleg sydd ar gael yng Nghymru yn unig yn arwain at fanteision uniongyrchol i gleifion yng Nghymru wrth ddarparu dull mwy diogel, cyflymach a mwy dibynadwy o asesu tiwmorau.
Mae dulliau MRI presennol yn ddefnyddiol, ond yn aml, nid ydynt yn rhoi digon o fanylder i allu graddio tiwmorau’n gywir. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio techneg MRI newydd o’r enw MRI tryledu-ymlacio, sydd ar gael yng Nghymru yn unig, a fydd yn darparu gwybodaeth gyfoethocach am feinwe tiwmorau. Byddwn hefyd yn defnyddio dysgu peirianyddol i gyflymu sganio a dadansoddi delweddau’n fwy cywir. Gan y bydd cleifion yng Nghymru yn cael eu recriwtio o ysbytai lleol, bydd y prosiect yn cynnig dewis arall lleol, anymwthiol yn lle biopsïau, gan leihau anghysur, risg ac ansicrwydd i ddynion sy’n cael diagnosis o ganser y prostad.
I ddynion yng Nghymru, mae gan yr ymchwil hon y potensial i ddarparu dull o raddio tiwmorau sy’n fwy diogel, yn gyflymach ac yn fwy cywir, gan wella penderfyniadau o ran triniaeth, a gwella canlyniadau. Yn y tymor hwy, mae’n cryfhau arloesedd dan arweiniad Cymru ym maes delweddu canser ac yn sicrhau bod cleifion lleol yn elwa gyntaf ar dechnoleg ddiagnostig arloesol.