Symud at y prif gynnwys

Dr Pasquale Innominato

Ysbyty Gwynedd, Bangor

Mae Dr Pasquale Innominato yn oncolegydd clinigol yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac mae’n awdurdod blaenllaw ym maes cronobioleg (astudio cylchredau biolegol fel rhythmau circadaidd).
Ers ymuno ag Ysbyty Gwynedd yn 2017, mae Dr Innominato wedi cynnal diddordeb ymchwil cryf ochr yn ochr â’i waith clinigol, gan ymwneud ag amryw gyhoeddiadau a nifer o’i brosiectau ei hun. Ochr yn ochr â’i gydweithredwyr rhyngwladol, mae gan Dr Innominato le blaenllaw mewn datblygiadau mewn cyfundrefnau triniaeth a gofal canser personoledig.

Prosiectau: Canlyniadau a adroddir gan glaf ar gyfer rheoli symptomau

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd