Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Chris Marshall

PETIC (Canolfan Ddelweddu Tomograffeg Allyrru Positronau)

Yr Athro Chris Marshall yw Cyfarwyddwr PETIC (Canolfan Ddelweddu Tomograffeg Allyrru Positronau), canolfan ymchwil a diagnostig gyntaf Cymru sy’n darparu sganiau PET/CT. Ers dod yn Gyfarwyddwr yn 2013, mae’r Athro Marshall wedi goruchwylio datblygiad PETIC, sydd bellach yn sganio dros 2500 o gleifion y flwyddyn at ddibenion diagnostig, treialon clinigol ac ymchwil. Mae diddordebau ymchwil yr Athro Marshall yn cynnwys datblygu deunyddiau radiofferyllol newydd a gwella galluoedd delweddu sganiau PET/CT.

Prosiectau: Camerâu gama CZT ar gyfer canserau metastatig