Symud at y prif gynnwys

Yr Athro Mark Gumbleton

Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Mark Gumbleton yn Bennaeth yr Ysgol Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn arbenigwr ar therapiwteg arbrofol. Ac yntau wedi’i benodi’n Athro ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2012, mae’r Athro Gumbleton wedi mynd ymlaen i adeiladu ei grŵp ymchwil sydd â diddordeb mewn sut mae therapïau yn rhyngweithio â’r corff, gyda ffocws arbennig ar yr ymennydd a thiwmorau’r ymennydd. A chanddo brofiad rhyngwladol helaeth ar draws polisi, diwydiant ac academia, mae’r Athro Gumbleton yn arweinydd ym maes rhoi cyffuriau.

Prosiectau: 

Model Glioblastoma Aml-linach perthnasol i bobl