Symud at y prif gynnwys

Adam Fletcher

Adam Fletcher yw Prif Swyddog Gweithredol Ymchwil Canser Cymru

Arweinydd strategol llwyddiannus gyda dros 10 mlynedd o brofiad mewn rolau arweinyddiaeth uwch mewn addysg uwch a'r sector elusennau iechyd yng Nghymru.

Mae ei arbenigedd yn cynnwys datblygu a darparu partneriaethau strategol i wella ymchwil a gofal iechyd, gan gynnwys gyda Llywodraeth Cymru, y GIG a phrifysgolion yng Nghymru.

Cyn hynny, Adam oedd pennaeth British Heart Foundation (BHF) Cymru ers 2017. Mae Adam hefyd wedi gweithio fel ymchwilydd iechyd cyhoeddus a darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain. 

Yng Nghaerdydd, ef oedd dirprwy gyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth UKCRC ar gyfer Ymchwil Iechyd Cyhoeddus a sefydlodd Lab Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus cyntaf Cymru mewn partneriaeth â Nesta a Llywodraeth Cymru.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd