Symud at y prif gynnwys

Jessica Ashfield

Jessica Ashfield yw Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Ymchwil Canser Cymru. 

Mae Jessica yn gyfrifydd siartredig sy'n credu bod arweinyddiaeth ariannol wych yn ymwneud â chydweithrediad, pobl, a phwrpas. Gyda meddwl ymarferol a chanolbwyntio ar atebion, mae hi'n ymuno â'n Tîm Arweinyddiaeth Uwch i helpu i arwain ein strategaeth ariannol a'n cynaladwyedd tymor hir. Dros ei gyrfa, mae hi wedi arwain cynllunio ariannol, trawsnewid busnes, a strategaethau adnoddau ar draws sefydliadau mawr y sector cyhoeddus ac o fewn y sector elusennol.

Mae Jessica wrth ei bodd gweithio'n agos gyda phobl ac mae'n adnabyddus am ei steil arweinyddiaeth gadarnhaol a chydweithredol, gan ganolbwyntio bob amser ar alluogi ei thimoedd i lwyddo.

Ar ôl bod wedi gofalu am weithrediadau ariannol a phortffolios buddsoddi ar gyfer elusennau canser blaenllaw, mae Jessica wrth ei bodd i ddod â’i sgiliau ac arbenigedd i’r sector hanfodol hwn unwaith eto. Mae’n falch o ddefnyddio ei phrofiad ariannol i gefnogi ein cenhadaeth, gan sicrhau y gall Ymchwil Canser Cymru barhau i wneud gwahaniaeth go iawn i gleifion a theuluoedd ledled Cymru. 

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd