Symud at y prif gynnwys

Lorraine Boyd

Lorraine Boyd yw Pennaeth Manwerthu Ymchwil Canser Cymru. Ers ymuno â'r elusen bron i dair blynedd yn ôl, mae Lorraine wedi ehangu ein ystad manwerthu a'i chymryd o dair siop i 15, gyda phedair wedi agor yn 2024 yn unig.

Cyn hynny, bu'n gweithio fel rheolwr cyffredinol ar gyfer Grŵp Arcadia am dros 25 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw symudodd ar draws y busnes a phrofi amrywiaeth o rolau a swyddogaethau, gan gynnwys agor ac ail-osod siopau, datrys problemau a hyfforddi pobl ar bob lefel o reoli.

Mae Lorraine yn brofiadol ym mhob agwedd o waith uwch reoli ac mae ganddi angerdd a ffocws ar gyfer mentrau cynllunio a hyfforddi olyniaeth. Yn arweinydd angerddol sy'n hyderus wrth reoli newid, mae Lorraine eisiau codi ymwybyddiaeth o Ymchwil Canser Cymru ac mae'n falch iawn o'r hyn y mae'r elusen yn sefyll amdano.

Yn aelod gweithgar o'i chymuned leol, yn ystod y pandemig, gwirfoddolodd Lorraine i ddosbarthu parseli bwyd i'r rhai mewn angen.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd