Symud at y prif gynnwys

Mari Grug

Mae Mari Grug yn gyflwynydd teledu poblogaidd ar S4C ac i’w weld yn cyflwyno y rhaglenni dyddiol poblogaidd Heno a Prynhawn Da. Mae hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru ac yn gyfrifol am y podlediad Cymraeg sy’n trafod canser o’r enw ‘1 mewn 2’. Ym mis Gorffennaf 2023, datgelodd y bu’n cael triniaeth ar gyfer canser y fron metastatig.

Dechreuodd ei gyrfa fel cyflwynydd y rhaglen ‘Planed Plant’ cyn cyflwyno rhai o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru, fel yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, a’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, a bu’n rhan o’r tîm cyflwyno’r tywydd am 6 blynedd. Fel mam i dri o blant, mae bywyd yn brysur ond yn llawer o hwyl.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd