Symud at y prif gynnwys

Millie-Mae Adams

Millie-Mae Adams yw Miss World UK ac mae'n fyfyriwr meddygol trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerwysg.

Fel meddyg mewn hyfforddiant, mae achub bywydau wrth wraidd yr hyn y mae'n ei wneud, ond roedd Millie-Mae eisiau ehangu ei chyrhaeddiad, felly creodd 'Medic Millie Mondays' - cyfres o fideos yn addysgu'r cyhoedd am bynciau meddygol megis sut i wirio'ch bronnau am lympiau, sut i adnabod arwyddion canser y faner goch, a llawer mwy. 

Gyda hanes teuluol cryf o ganser, mae'r rôl hon fel Llysgennad Ymchwil Canser Cymru yn arbennig iawn iddi.

Ni yw’r elusen ymchwil canser Cymreig. Helpwch ni i ariannu ymchwil o'r safon uchaf yng Nghymru.

Bob wythnos yng Nghymru, mae 175 o deuluoedd yn colli anwylyd i ganser. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr nad oes rhaid i bobl Cymru dderbyn canser fel salwch sy’n bygwth bywyd. Ond rydyn ni angen eich cymorth chi. Beth am roi heddiw a helpu i ddod â thriniaethau gwell yn nes at adref i gleifion ledled Cymru.

Neu dewiswch eich swm eich hun i roi

£
Gwneud rhodd