Sgrîn ddileu ar gyfer cyfryngwyr ymwrthedd i therapi mewn glioblastoma
Donate today and contribute to future projects
RhoiLleoliad
Prifysgol Caerdydd
Math o ymchwil
Darganfod
Math o ganser
Yr Ymennydd
Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael ag un o’r prif resymau pam mae canlyniadau ar gyfer cleifion glioblastoma yn parhau mor wael: sef bod rhai celloedd tiwmorau yn gallu goroesi triniaeth wrth fynd i gyflwr segur sy’n gwrthsefyll therapi ac sydd, yn ddiweddarach, yn arwain at ailymddangosiad tiwmorau. Yng Nghymru, fel mewn mannau eraill, mae mynediad at opsiynau iachaol ar gyfer canser yr ymennydd yn gyfyngedig iawn, ac mae atal ailymddangosiad yn hanfodol i wella goroesiad.
Wrth ddefnyddio technoleg sgrinio arloesol CRISPR, bydd yr ymchwil hon yn nodi’r genynnau sy’n galluogi celloedd glioblastoma i “guddio” rhag triniaethau safonol a ddefnyddir o fewn GIG Cymru, fel cemotherapi temozolomide. Bydd deall y mecanweithiau hyn yn helpu i nodi targedau newydd y gellid eu defnyddio ochr yn ochr â therapïau presennol i atal tiwmorau rhag dychwelyd.
Mae’r gwaith wedi’i gynllunio i gynhyrchu data darganfod cadarn sy’n seiliedig ar Gymru, a all ddatblygu’n gyflym i fod yn sylfaen i astudiaethau trosiadol a cheisiadau am gyllid, gan gryfhau’r biblinell ymchwil tiwmorau’r ymennydd yng Nghymru. Yn y pen draw, nod y prosiect hwn yw darparu buddion cynharach i gleifion yng Nghymru a gosod sail ar gyfer triniaethau newydd y gellid eu mabwysiadu’n ehangach ledled y DU yn ddiweddarach.